Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ynys Môn 2004
Enghraifft o'r canlynol | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd |
---|---|
Dyddiad | 2004 |
Lleoliad | Llangefni |
Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ynys Môn 2004 rhwng 31 Mai - 5 Mehefin 2004. Cynhaliwyd yr Eisteddfod ar safle Sioe Amaethyddol Môn ym Mona ger Llangefni.[1]
Er bod ffigurau ymwelwyr ar gyfer y diwrnod cyntaf i lawr bron i bum mil o gymharu â Pharc Margam yn 2003, roedd y nifer ar gyfer yr wythnos i gyd yn 106,000 - ychydig yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. Canmolwyd hefyd y datblygiad i gynnwys wal fideo 80 sgrîn yn gefndir i'r cystadlu ar y llwyfan gyda lluniau i gydfynd a themâu y gwahanol gystadlaethol a ffilmiau byrion am enillwyr y prif gystadlaethau ac am gynnal rhagbrofion ar y Maes fel gwnaethpwyd yn 2003.[2]
Diffyg angerdd ysgrifenwyr
[golygu | golygu cod]Wrth draddodi'r feirniadaeth yng nghystadleuaeth y Goron yn yr Eisteddfod, dywedodd Gwilym Dyfri Jones ei fod ef a'i gyd feirniad, Jane Edwards, yn gweld eisiau angerdd, "angst" a beiddgarwch yr ifanc yn y gystadleuaeth.
Cwynodd fod amryw o'r cystadleuwyr yn "amharod iawn" i drafod y "lleng" o argyfyngau sy'n wynebu'r arddegau mewn cyfnod "anodd a dyrys" fel heddiw.
Er bod 21 wedi cystadlu, cwynai, y "Chwiliem am yr 'angst' yma, y cicio yn erbyn y tresi, y llais unigol sy'n gweiddi, 'weli di fi?'". Yr oedd gwaith enillydd y gystadleuaeth, Sian Eirian Rees Davies, fodd bynnag, wedi plesio'r ddau feirniad.[3]
Enillwyr
[golygu | golygu cod]- Y Goron - Siân Eirian Rees o Dinas, Pen Llŷn, graddiodd mewn Cymraeg o Brifysgol Bangor, ac wedi cwblhau MA ysgrifennu creadigol cyn dechrau ar ei swydd gyntaf yn ddarlithydd Cymraeg ail iaith yng Coleg Iâl, ger Wrecsam.[4]
- Y Gadair - Hywel Meilyr Griffiths, o Langynog ger Caerfyrddin, iddo gael ei sbarduno i gyfansoddi ei gerdd gan ymgyrchoedd diweddaraf myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth ac yr oedd yn gwisgo yn ystod y seremoni fathodyn yr ymgyrch am Coleg Ffederal Cymraeg (a wireddwyd, maes o law fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.Aberystwyth[5]
- Y Fedal Ddrama - Meinir Lloyd Jones, Aelwyd Bro Aled, ac athrawes yn Ysgol Gynradd Llanefydd gyda drama yn sôn am agweddau milain plant at ei gilydd gyda'u chwarae diniwed yn troi'n "fygythiadau a chyhuddiadau sinistr". [6]
- Y Fedal Lenyddiaeth - Mari Siôn, cyn-fyfyriwr MA mewn Gwleidyddiaeth ym Aberystwyth oedd yn gweithio fel cynorthwydd personol aelod Plaid Cymru yn y Cynulliad (fel gelwid Senedd Cymru ar y pryd, Leanne Wood. Caerdydd[7]
- Tlws Cyfansoddwr - Owain Llwyd, o Lyndyfrdwy oedd yn fyfyriwr Cerdd ym Mhrifysgol Bangor a ddaeth yn gyntaf ac yn ail yn y gystadleuaeth.[8] Bu iddo hefyd ennill y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2002 ac yna eisteddfod nesa'r Urdd yng Nghaerdydd, Eisteddfod Canolfan y Mileniwm 2005.
- Y Fedal Gelf - Aron Owen (?), o Abergele oedd yn fyfyriwr yng Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd )(Prifysgol Metropolitan Caerdydd bellach)[9]
- Medal y Dysgwr - Patrick Bidder o Ysgol Uwchradd Caerdydd oedd wedi ei dderbyn i Goleg Sant Ioan Caergrawnt i astudio Athroniaeth. Roedd ei ddarn fuddugol ar ffurf llythyr i Weinidigo Diwylliant Cymru, Alun Pugh AC yn galw ar fwy o gefnogaeth i gerddoriaeth mewn ysgolion.[10]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd - rhestr enillwyr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Croeso i Eisteddfod Môn". Gwefan Eisteddfod yr Urdd Môn 2004. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Gwlad y Medra wedi medru!". BBC Cymru. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Yr ifanc yn siomi". BBC Cymru. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Coroni Ffrwyth yr Eira". BBC Cymru. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Cadeirio cynghanedd ymgyrchu". BBC Cymru. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2023.
- ↑ "'Terfysgaeth' yn symbylu'r Fedal Ddrama". BBC Cymru. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Cerddi cofiadwy". BBC Cymru. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Cerddor heb ei ail". BBC Cymru. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Aron has designs on cars". Wales Online (Western Mail). 1 Mehefin 2004.
- ↑ "Apêl gerddorol dysgwr". BBC Cymru. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2023.