Leanne Wood
| Leanne Wood | |
|---|---|
Wood yn 2016 | |
| Arweinydd Plaid Cymru | |
| Yn ei swydd 16 Mawrth 2012 – 28 Medi 2018 | |
| Arlywydd | Dafydd Wigley |
| Dirprwy | Elin Jones |
| Cadeirydd | Helen Mary Jones Dafydd Trystan Davies Alun Ffred Jones |
| Rhagflaenwyd gan | Ieuan Wyn Jones |
| Dilynwyd gan | Adam Price |
| Arweinydd yr Wrthblaid yn y Cynulliad | |
| Yn ei swydd 5 Mai 2016 – 14 Hydref 2016 | |
| Teyrn | Elizabeth II |
| Prif Weinidog | Carwyn Jones |
| Rhagflaenwyd gan | Andrew R. T. Davies |
| Dilynwyd gan | Andrew R. T. Davies [1] |
| Aelod o Senedd Cymru dros Rhondda | |
| Yn ei swydd 6 Mai 2016 – 29 Ebrill 2021 | |
| Rhagflaenwyd gan | Leighton Andrews |
| Dilynwyd gan | Buffy Williams |
| Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros Rhanbarth Canol De Cymru | |
| Yn ei swydd 1 Mai 2003 – 6 Ebrill 2016 | |
| Rhagflaenwyd gan | Pauline Jarman |
| Dilynwyd gan | Neil McEvoy |
| Manylion personol | |
| Ganwyd | 13 Rhagfyr 1971 Llwynypia |
| Cenedligrwydd | |
| Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
| Priod | Ian Brown |
| Plant | 1 |
| Alma mater | Prifysgol Morgannwg |
| Gwefan | Gwefan swyddogol |
Gwleidydd o Gymru a chyn-arweinydd Plaid Cymru yw Leanne Wood (ganed 13 Rhagfyr 1971). Bu'n cynrychioli Plaid Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru dros Ranbarth Canol De Cymru rhwng 2003 a 2016. Cipiodd sedd y Rhondda yn etholiad y Cynulliad, 2016 ond ni chafodd ei hail-ethol yn Etholiad Senedd Cymru, 2021. Bu'n Weinidog yr Wrthblaid dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ac yn llefarydd Plaid Cymru ar Dai ac Adfywio.
Fe'i ganed yn Llwynypia yn y Rhondda. Mae hi'n weriniaethwr ac yn sosialydd o argyhoeddiad ac fe ddysgodd Cymraeg fel oedolyn. Mae hi hefyd yn un o Is-lywyddion Anrhydeddus Searchlight Cymru.
Gorfodwyd iddi adael siambr y cynulliad ar ôl iddi gyfeirio at frenhines y DU wrth ei henw personol, sef Mrs Windsor, yn hytrach na "The Queen", a hynny oherwydd ei daliadau gwleidyddol fel gweriniaethwraig Gymreig.[2]
Arweinyddiaeth Plaid Cymru
[golygu | golygu cod]Fe etholwyd Leanne Wood fel arweinydd Plaid Cymru ar 15 Mawrth 2012, gan guro Dafydd Elis Thomas ac Elin Jones. Seiliwyd ei hymgyrch ar y cysyniad o 'wir annibyniaeth'[3]. Cafwyd her i arweinyddiaeth Leanne Wood yng Ngorffennaf 2018, gyda Rhun ap Iorwerth ac Adam Price yn sefyll i fod yn arweinydd newydd.[4]. Cafwyd ymgyrch etholiadol gan y tri ymgeisydd yn ystod Awst a Medi. Cyhoeddwyd mai Adam Price fyddai'r arweinydd newydd ar 28 Medi 2018. Enillodd Price 3,481 pleidlais yn y rownd gyntaf, gyda ap Iorwerth yn ail gyda 1,961 pleidlais a Wood yn drydydd gyda 1,286. Yn yr ail rownd, cafodd Price 2,863 pleidlais, a derbyniodd ap Iorwerth 1,613 pleidlais.[5]
Dadl deledu, 2015
[golygu | golygu cod]Ar yr ail o Ebrill 2015, cymerodd Wood ran mewn dadl rhwng 7 o wleidyddion a ddarlledwyd ar brif sianeli teledu gwledydd Prydain.
Etholiad 2021
[golygu | golygu cod]Collodd Wood ei sedd yn Rhondda yn etholiadau Seneddol 2021. Ar ôl buddugoliaeth Buffy Williams (Plaid Lafur), talodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, deyrnged i “ymroddiad a dewrder” Leanne Wood.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwag 14 Hydref 2016 – 6 Ebrill 2017
- ↑ BBC News
- ↑ http://cy.leannewood.org[dolen farw]
- ↑ Rhun ap Iorwerth ac Adam Price i herio Leanne Wood , BBC Cymru Fyw, 4 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 28 Medi 2018.
- ↑ Ethol Adam Price fel arweinydd newydd Plaid Cymru , BBC Cymru Fyw, 28 Medi 2018.
- ↑ "Teyrnged Chris Bryant i Leanne Wood ar ôl dweud ei bod hi ac Adam Price "wedi chwythu'u plwc"". golwg360. Cyrchwyd 9 Mai 2021.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Archifwyd 2015-08-01 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Blog swyddogol
- Twitter swyddogol
- Proffil ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru Archifwyd 2014-03-02 yn y Peiriant Wayback
| Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Leighton Andrews |
Aelod Cynulliad dros Rhondda 2016 – 2021 |
Olynydd: Buffy Williams |
| Rhagflaenydd: Pauline Jarman |
Aelod Cynulliad dros Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros Ganol De Cymru 2003 – 2016 |
Olynydd: Neil McEvoy |
| Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
| Rhagflaenydd: Ieuan Wyn Jones |
Arweinydd Plaid Cymru 2012 – 2018 |
Olynydd: Adam Price |
| ||||||||
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2003–2007
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007–2011
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011–2016
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016–2021
- Ffeministiaid o Gymru
- Genedigaethau 1971
- Gwleidyddion yr 21ain ganrif o Gymru
- Gwleidyddion Plaid Cymru
- Arweinwyr Plaid Cymru
- Gweriniaethwyr o Gymru
- Heddychwyr o Gymru
- Pobl o Rondda Cynon Taf
- Merched yr 20fed ganrif o Gymru
- Merched yr 21ain ganrif o Gymru