Jillian Evans
| Jillian Evans | |
|---|---|
| Ganwyd | 8 Mai 1959 Ystrad Rhondda |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Gwleidydd o Gymru yw Jillian "Jill" Evans (ganed 8 Mai 1959), sy'n aelod blaenllaw o Blaid Cymru a oedd yn Aelod Senedd Ewrop dros Gymru o 1999 hyd 2020.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganed hi yn Ystrad Rhondda yn y Rhondda a'i haddysgu yn Nhonypandy a Phrifysgol Abertawe. Bu'n gweithio fel cynorthwydd ymchwil ym Mholytechnig Cymru lle enillodd radd M.Phil. Bu'n gweithio dros Sefydliad y Merched yng Nghymru am chwe blynedd cyn dod yn drefnydd gros Gymru i CHILD - Rhwydwaith Cefnogi Anffrwythlondeb Cenedlaethol.
Bu'n gadeirydd Plaid Cymru o 1994 hyd 1996.
Daeth yn Aelod Seneddol Ewrop yn etholiad 1999, gan ddod yn ASE cyntaf y Blaid gydag Eurig Wyn. Hi oedd yr aelod cyntaf i ddefnyddio'r Gymraeg mewn dadl yn Senedd Ewrop. Cadwodd ei sedd nes i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd o ganlyniad i Brexit yn 2020.
Roedd yn gadeirydd CND Cymru o 2001 hyd 2011.
Cafodd ei hethol yn Is-Lywydd Plaid Cymru yn 2004. Ar 8 Mehefin 2010 cafodd ei hethol yn ddiwrthwynebiad i olynu Dafydd Iwan fel Llywydd y Blaid, cymerodd drosodd fel Llywydd ym Medi 2010.[1]
Yn Ionawr 2011, cyhoeddwyd ei bod yn un o gant oedd wedi gwrthod talu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[2]
Yn 2010 fe'i derbyniwyd i'r orsedd fel Urdd Derwydd er Anrhydedd.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Jill Evans yn Llywydd newydd Plaid Cymru" Newyddion BBC Cymru, 08.06.2010.
- ↑ Tudalen Newyddion ar Wefan Golwg360[dolen farw]
- ↑ "Anrhydeddau 2010 – Gorsedd Cymru". 2016-07-21. Cyrchwyd 2023-08-07.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Jill Evans", Cymdeithas Hanes Plaid Cymru
| Senedd Ewrop | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Senedd Ewrop dros Gymru 1999 – 2020 gyda John Bufton (ers 2009), Jonathan Evans (1999-2009), Glenys Kinnock (1999-2009), Eluned Morgan (1999-2009), Kay Swinburne (ers 2009) a Derek Vaughan (ers 2009) ac Eurig Wyn (1999-2004) |
Olynydd: neb |
| Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
| Rhagflaenydd: Dafydd Iwan |
Llywydd Plaid Cymru 2010 – 2011 |
Olynydd: Marc Phillips |
