Eurig Wyn

Oddi ar Wicipedia
Eurig Wyn
Ganwyd10 Hydref 1944 Edit this on Wikidata
Hermon Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mehefin 2019 Edit this on Wikidata
Waunfawr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata
Am y llenor gweler Eirug Wyn.

Gohebydd newyddion a gwleidydd Cymreig dros Blaid Cymru oedd Eurig Wyn (10 Hydref 194425 Mehefin 2019)[1].

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Eurig yn Hermon ger Crymych. Aeth i astudio yng Ngholeg Aberystwyth cyn mynd i ddysgu yng Nghaerdydd am dair blynedd.[2]

Yna ymunodd a'r BBC gan weithio fel gohebydd chwaraeon ac yn ddarllenwr newyddion ar y rhaglen Heddiw. Symudodd wedyn i fyd gwleidyddiaeth. Roedd yn cynrychioli ward Waunfawr ar Gyngor Gwynedd nes penderfynu ildio'r awenau ym Mehefin 2016. Roedd yn Aelod Senedd Ewrop dros Gymru am bum mlynedd (1999-2004).

Roedd hefyd yn aelod o fwrdd Parc Cenedlaethol, yn Gadeirydd ar Bwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd ac yn gyfarwyddwr i Antur Waunfawr.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod a Gillian Wyn ac roedd ganddynt ddau o blant, Euros a Bethan. Roedd yn ewythr i Rhys a Llŷr Ifans.

Salwch a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n dioddef o afiechyd Parkinsons am rhai blynyddoedd cyn ei farwolaeth. Yn dilyn damwain yn Mehefin 2019, cafodd ei gludo i'r adran trawma yn Stoke-on-Trent. Daeth yn ôl wedyn i Ysbyty Gwynedd cyn dod adref i'w gartref lle bu farw nos Fawrth, 25 Mehefin.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y gwleidydd Eurig Wyn wedi marw , BBC Cymru Fyw, 26 Mehefin 2019.
  2. 2.0 2.1 Marw cyn Aelod Seneddol Ewropeaidd, Eurig Wyn, “dyn y bobol” , Golwg360, 26 Mehefin 2019.
Senedd Ewrop
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Senedd Ewrop dros Gymru
19992004
gyda
Jill Evans, Jonathan Evans, Glenys Kinnock ac Eluned Morgan
Olynydd:
Jill Evans
Jonathan Evans
Glenys Kinnock
Eluned Morgan
dilewyd y 5ed sedd