Neidio i'r cynnwys

Alun Ffred Jones

Oddi ar Wicipedia
Alun Ffred Jones
Alun Ffred Jones


Cyfnod yn y swydd
3 Mai 2003 – 1 Mai 2007

Cyfnod yn y swydd
1 Mai 2007 – 6 Mai 2016
Olynydd Sian Gwenllian

Geni (1949-10-29) 29 Hydref 1949 (76 oed)
Brynaman, Sir Gaerfyrddin
Plaid wleidyddol Plaid Cymru
Alma mater Prifysgol Bangor
Galwedigaeth Cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu, Gwleidydd

Gwleidydd, awdur a chyfarwyddwr teledu o Gymro yw Alun Ffred Jones (ganwyd 29 Hydref 1949). Roedd yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros etholaeth Arfon. Etholwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf ym mis Mai 2003. Bu'n Weinidog dros Dreftadaeth yn Llywodraeth Cymru.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganed Alun Ffred Jones ym Mrynaman, sir Gaerfyrddin, yr ieuengaf o bedwar mab i’r Parchedig Gerallt ac Elizabeth 'Sis' Jones. Fe'i magwyd ym Mhenllyn, Meirionnydd. Aeth i Ysgol Syr O M Edwards, Llanuwchllyn ac Ysgol y Berwyn Y Bala. Aeth ymlaen i astudio'r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Bangor lle bu'n aelod o Gymdeithas Ddrama Gymraeg Coleg. Bu dan gyfarwyddyd Dr John Gwilym Jones ac roedd yn rhannu fflat gyda’r actor, John Pierce Jones. Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn rheolwr dros dro ar dafarn y Globe ym Mangor Uchaf.[1]

Wedi gadael y coleg, bu Alun yn athro Cymraeg, am gyfnod yn Ysgol Uwchradd Glannau Dyfrdwy. Yna bu’n Bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Alun, Yr Wyddgrug ac yn ystod y cyfnod hwn, sefydlodd, gydag eraill, Gwmni Drama’r Dreflan a chyfarfod ei ddarpar wraig Alwen o Fryncoch, ger Castell Nedd. Bu hefyd yn gweithio ar gyrsiau iaith yng Ngwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn.

Radio a theledu

[golygu | golygu cod]

Ar ddechrau’r 80au ymunodd â HTV yng Nghaerdydd fel newyddiadurwr ar raglen Y Dydd a chyflwynydd y rhaglen materion cyfoes Yr Wythnos. Pan briododd, symudodd ef a’i wraig yn ôl i’r gogledd gan gychwyn ar yrfa lwyddiannus gyda Ffilmiau'r Nant yng Nghaernarfon fel prentis gyfarwyddwr.

Bu'n ysgrifennu a gweithio ar gyfresi teledu fel Deryn, Anest a Pengelli a ffilmiau unigol fel Cylch Gwaed, Plant y Tonnau ac Oed yr Addewid. Daeth yn fwyaf adnabyddus am gyd-ysgrifennu a chyfarwyddo C'mon Midffild!, rhaglen gomedi fwyaf llwyddiannus S4C.

Roedd yn gyn-gadeirydd CYFLE a Bwrdd Rheoli TAC, mae ganddo ddiddordeb a gwybodaeth am ddarlledu ac hyfforddi.

Gwleidyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Yn ystod ei gyfnod ym myd teledu bu’n gynghorydd cymuned, cynghorydd dosbarth a sir dros Benygroes a phan grëwyd y Wynedd newydd yn 1996 cafodd ei ddewis yn Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd. Yn 2003 ar ymddeoliad Dafydd Wigley etholwyd ef yn Aelod y Cynulliad dros Gaernarfon ac yna dros ardal Arfon yn 2007 a 2011.

Ar 22 Gorffennaf 2008 fe'i penodwyd yn Weinidog Treftadaeth yn Llywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru, Cymru'n Un [2], a llywiodd Fesur yr Iaith Gymraeg trwy’r Cynulliad. Ar yr 8 Mai 2014 cyhoeddodd na fyddai yn sefyll am sedd yn y Cynulliad yn yr etholiadau nesaf yn 2016.[3]

Yn Gorffennaf 2022, ymddiswyddodd fel cadeirydd Plaid Cymru am nad oedd yn fodlon gyda'r ffordd roedd blaid wedi delio ag achos yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards. Penderfynwyd ail-dderbyn Edwards fel aelod o Blaid Cymru ar ôl iddo gael ei wahardd am 12 mis yn 2020 ar ôl cael rhybudd gan yr heddlu am ymosod.[4]

Carreg filltir i'r iaith Gymraeg

[golygu | golygu cod]

Ar 20 Tachwedd 2008, gwnaeth Alun Ffred Jones hanes drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfod o Gyngor Gweinidogion Undeb Ewrop am y tro cyntaf erioed. Siaradodd fel Gweinidog dros Dreftadaeth Cymru yn rhan o ddirprwyaeth y DU i'r cyfarfod. Cyfieithwyd araith y gweinidog mewn canlyniad i gytundeb rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ac Undeb Ewrop a gytunwyd yng Ngorffennaf 2008.[5]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd Alwen a ganwyd 3 plentyn iddynt. Ymysg ei ddiddordebau eraill mae datblygu cymunedol, theatr, chwaraeon a beicio. Bu'n Gadeirydd Antur Nantlle ac yn Gadeirydd Clwb Pêl-droed Dyffryn Nantlle.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Alun Ffred Jones yn serennu fel gôl geidwad! , Y Cymro, 8 Mehefin 2012. Cyrchwyd ar 19 Gorffennaf 2022.
  2. "Alun Ffred Jones is new Heritage Minister". Wales Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-07-31. Cyrchwyd 2008-07-22.
  3. http://www.bbc.co.uk/newyddion/22462648 Alun fred Jones i ymddeol
  4. Cadeirydd Plaid Cymru’n ymddiswyddo yn sgil penderfyniad am aelodaeth Jonathan Edwards , Golwg360, 18 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd ar 19 Gorffennaf 2022.
  5. BBC Cymru: 'Carreg Filltir i'r iaith' Adroddiad sy'n cynnwys clip fideo o'r digwyddiad.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Cynulliad dros Gaernarfon
20032007
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Cynulliad dros Arfon
20072016
Olynydd:
Sian Gwenllian