Cadeirydd

Oddi ar Wicipedia

Y swyddfa uchaf mewn grŵp sydd wedi ei drefnu yw cadeirydd, megis ar fwrdd, pwyllgor neu gynulliad ymgynghorol. Caiff y person sy'n dal y swydd eu ethol fel rheol, neu eu apwyntio gan aelodau'r grŵp. Mae'r cadeirydd yn llywyddu cyfarfodydd y grŵp ac yn cynnal y busnes yn drefnus.[1] Pan nad yw'r grŵp mewn cyfarfod, mae dyletswyddau'r cadeirydd yn aml yn cynnwys actio fel pennaeth, cynrychiolydd a llefarydd y grŵp.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Robert's Rules of Order Newly Revised, 10fed argraffiad, Perseus Books Group, Cambridge MA, 2000
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.