Carwyn Jones

Oddi ar Wicipedia
Y Gwir Anrhydeddus
Carwyn Jones
Jones yn 2016
3ydd Prif Weinidog Cymru
Yn ei swydd
10 Rhagfyr 2009 – 12 Rhagfyr 2018
TeyrnElizabeth II
DirprwyIeuan Wyn Jones (2009–2011)
Rhagflaenwyd ganRhodri Morgan
Dilynwyd ganMark Drakeford
Arweinydd Llafur Cymru
Yn ei swydd
1 Rhagfyr 2009 – 6 Rhagfyr 2018
DirprwyCarolyn Harris (2018)
ArweinyddGordon Brown
Ed Miliband
Jeremy Corbyn
Rhagflaenwyd ganRhodri Morgan
Dilynwyd ganMark Drakeford
Cwnsler Cyffredinol Cymru
Yn ei swydd
19 Gorffennaf 2007 – 9 Rhagfyr 2009
Prif WeinidogRhodri Morgan
Gweinidog GwladolCharlie Falconer
Jack Straw
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd y swydd
Dilynwyd ganJohn Griffiths
Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
Yn ei swydd
25 Mai 2007 – 19 Gorffennaf 2007
Prif WeinidogRhodri Morgan
Rhagflaenwyd ganJane Davidson
Dilynwyd ganJane Hutt
Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Yn ei swydd
13 Mai 2003 – 25 Mai 2007
Prif WeinidogRhodri Morgan
Rhagflaenwyd ganDelyth Evans
Dilynwyd ganJane Davidson
Gweinidog Busnes y Cynulliad
Yn ei swydd
18 Mehefin 2002 – 13 Mai 2003
Prif WeinidogRhodri Morgan
Rhagflaenwyd ganAndrew Davies
Dilynwyd ganKaren Sinclair
Gweinidog dros Amaeth a Materion Gwledig
Yn ei swydd
23 Gorffennaf 2000 – 18 Mehefin 2002
Prif WeinidogRhodri Morgan
Rhagflaenwyd ganChristine Gwyther
Dilynwyd ganMike German
Aelod o Senedd Cymru
dros Ben-y-bont ar Ogwr
Yn ei swydd
6 Mai 1999 – 29 Ebrill 2021
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd yr etholaeth
Mwyafrif5,623 (20.9%)
Manylion personol
GanwydCarwyn Howell Jones
(1967-03-21) 21 Mawrth 1967 (56 oed)
Abertawe
CenedligrwyddBaner Cymru Cymru
Plaid wleidyddolLlafur
PriodLisa Jones
Plant2
Alma materPrifysgol Cymru, Aberystwyth
Inns of Court School of Law
GalwedigaethBargyfreithiwr
Gwefanwww.carwynjonesam.co.uk

Gwleidydd Llafur yw Carwyn Jones (ganwyd 21 Mawrth 1967) a wasanaethodd fel Prif Weinidog Cymru ac Arweinydd Llafur Cymru rhwng 2009 a 2018. Gwasanaethodd fel Cwnsler Cyffredinol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru rhwng 2007 a 2009. Bu'n aelod o'r Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1999 a 2021.

Gwasanaethodd Jones fel Gweinidog yn barhaol o 23 Chwefror 2000 hyd ei ymddeoliad fel Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2018 - cyfanswm o 6,867 diwrnod, gan ei wneud y Gweinidog Llafur a wasanaethodd hiraf yn hanes y Deyrnas Gyfunol.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Carwyn yn Abertawe ac fe'i magwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr mewn teulu o siaradwyr Cymraeg.[1] Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac aeth ymlaen i astudio ym Prifysgol Cymru, Aberystwyth,[2] lle ymunodd a'r Blaid Lafur yn ystod streic y glowyr 1984-85.[1]

Gyrfa broffesiynol[golygu | golygu cod]

Graddiodd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1988 gyda gradd yn y Gyfraith ac aeth ymlaen i Ysgol y Gyfraith Inns of Court yn Llundain i hyfforddi fel bargyfreithiwr.[2] fF'i galwyd i'r bar yn Gray's Inn yn 1989 a treuliodd flwyddyn pellach yng Nghaerdydd ar dymor prawf wedi ei ddilyn gan 10 mlynedd yn ymarfer yn Siambrau Gower, Abertawe ar gyfraith teuluol, troseddol ac anafiadau personol.[3] Gadawodd i fynd yn diwtor ym Mhrifysgol Caerdydd am ddwy flynedd ar y Cwrs Bar Galwedigaethol.[2]"[4]

Cystadlodd Carwyn yn anllwyddiannus am enwebiad Llafur yn sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed yn 1997;[5] a dywedodd yn ddiweddarach mewn cyfweliad gyda'r BBC [6] ei fod wedi ystyried ceisio dod yn Aelod Seneddol, ond yn 1999, "cafodd gyfle" i sefyll dros etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn etholiadau cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac mae wedi dal y sedd ers hynny.

Yn Ionawr 2020 fe'i benodwyd yn Athro'r Gyfraith rhan amser ym Mhrifysgol Aberystwyth.[7]

Prifweinidogaeth[golygu | golygu cod]

Enillodd Carwyn Jones y ras i olynu Rhodri Morgan fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2009, gyda 51.97% o'r bleidlais, gan drechu Edwina Hart (29.19%) a Huw Lewis (18.84%).[8] Enwebwyd ef gan y Cynulliad i olynu Rhodri Morgan fel Prif Weinidog Cymru ar y 9 o Rhagfyr[9] a chymerodd y llw drenydd, sef ddydd Iau, 10 Rhagfyr mewn seremoni ffurfiol dan arweiniad y barnwr Mr Ustus Nigel Davis yn swyddfa Carwyn Jones ym Mharc Cathays, Caerdydd.[10]

Ad-drefnodd cabinet Llywodraeth y Cynulliad ar ôl dod yn brif weinidog. Penododd Leighton Andrews, rheolwr ei ymgyrch,[10] fel Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes. Ers ymddiswyddiad Gordon Brown yn 2010 Carwyn ydy'r Gweinidog uchaf ei swydd yn y Blaid Lafur drwy wledydd Prydain.

Ei daith dramor gyntaf fel Prif Weinidog oedd i Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen ar 14 Rhagfyr 2009.[11] Gadawodd y gynhadledd yn gynnar y diwrnod canlynol oherwydd marwolaeth ei fam, Janice Jones.[12]

Yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011 cynyddodd y Blaid Lafur y nifer o aelodau oedd ganddynt i un yn llai na'r hyn oedd ei angen i fod yn y mwyafrif. Penderfynodd Carwyn weithredu fel (ac i ffurfio) Llywodraeth yn hytrach na pharhau efo'r glymblaid.

Mewn araith yng nghynhadledd Llafur Cymru ar 21 Ebrill 2018 cyhoeddodd y byddai'n sefyll lawr fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog yn yr hydref.[13] Yn dilyn etholiad Mark Drakeford fel Arweinydd Llafur Cymru, cyhoeddodd y byddai'n ymddiswyddo fel Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2018.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae Carwyn yn briod â Lisa a mae ganddynt ddau o blant.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Profile: Carwyn Jones". BBC Wales. 1 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2009.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Profile of Carwyn Jones". Wales Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ionawr 2012. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "5mins with Carwyn Jones". BBC Wales. 11 Tachwedd 2009. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2009.
  4. Aberystwyth University – Carwyn Jones Archifwyd 5 January 2013[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
  5. "National Assembly for Wales, tudalennau 13, 14 a 20" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2018-12-11.
  6. "Five minutes with... Carwyn Jones". BBC News. 11 November 2009.
  7. Prifysgol yn penodi Carwyn Jones yn Athro'r Gyfraith , BBC Cymru, 15 Ionawr 2020.
  8. "Carwyn yn cipio'r arweinyddiaeth", BBC, 1 Rhagfyr 2009.
  9. "Carwyn Jones yn cael ei enwebu i fod yn Brif Weinidog", BBC, 9 Rhagfyr 2009.
  10. 10.0 10.1 "Carwyn Jones yn tyngu llw fel Prif Weinidog", BBC, 10 Rhagfyr 2009.
  11. "Carwyn Jones yng nghynhadledd newid hinsawdd", BBC, 14 Rhagfyr 2009.
  12. "Carwyn yn dod yn ôl i Gymru", BBC, 15 Rhagfyr 2009.
  13. Carwyn Jones am roi’r gorau iddi , Golwg360, 21 Ebrill 2018.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Aelod o'r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr
1999 – 2021
Olynydd:
Sarah Murphy
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Andrew Davies
Gweinidog Busnes y Cynulliad
2002 – 2003
Olynydd:
Karen Sinclair
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
2000 – 2007
Olynydd:
Jane Davidson
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
2007 (31 Mai i 19 Gorffennaf)
Olynydd:
swydd wedi'i had-drefnu
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Arweinydd y Tŷ
2007 – 2009
Olynydd:
swydd wedi'i had-drefnu
Rhagflaenydd:
Rhodri Morgan
Prif Weinidog Cymru
2009 – 2018
Olynydd:
Mark Drakeford
Swyddi cyfreithiol
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Cwnsler Cyffredinol Cymru
2007 – 2009
Olynydd:
John Griffiths