Charles Falconer, Barwn Falconer o Thoroton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Charles Falconer, Barwn Falconer o Thoroton
Charles Falconer, Baron Falconer of Thoroton, May 2009.jpg
Ganwyd 19 Tachwedd 1951 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Yr Alban Yr Alban
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd, Barnwr, Bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swydd Secretary of State for Justice, Arglwydd Ganghellor, Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol, Shadow Lord Chancellor, Cyfreithiwr Cyffredinol dros Gymru a Lloegr, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Shadow Secretary of State for Justice Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Mae Charles Leslie Falconer, y Barwn Falconer o Thoroton, PC, QC, (geni 19 Tachwedd 1951) yn Fargyfreithiwr ac yn wleidydd y Blaid Lafur sy'n eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.[1]

Penodwyd Falconer yn Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol yn 2003 gan y Prif Weinidog Tony Blair. Fe'i penodwyd yn deiliad cyntaf swydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder yn 2007 wedi aildrefnu ac ehangu portffolio'r Adran Materion Cyfansoddiadol. Gwasanaethodd yn y rôl newydd am ychydig dros fis cyn i Gordon Brown ddod yn Brif Weinidog ym mis Mehefin 2007 pan gafodd ei ddisodli gan Jack Straw. Fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Cyfiawnder Cysgodol dan arweinyddiaeth dros dro Harriet Harman, a pharhaodd yn y swydd wedi ethol Jeremy Corbyn yn arweinydd Llafur, hyd iddo - ynghyd â dwsinau o'i gydweithwyr - ymddiswyddo ar 26 Mehefin 2016.[2]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Falconer yng Nghaeredin ar 19 Tachwedd 1951, yn fab i John Leslie Falconer, cyfreithiwr, ac Anne Mansel, ei wraig.[3] Ei daid tadol oedd John Ireland Falconer, cyn Arglwydd Profost Caeredin.[4] Addysgwyd Falconer yn Academi Caeredin a Choleg y Drindod, Glenalmond .[3] Darllenodd y Gyfraith yng Ngholeg y Breninesau, Caergrawnt.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Falconer ei alw i'r bar yn y Deml Ganol ym 1974 gan ymarfer y gyfraith yn siambrau Fountain Court, Llundain. .Bu Falconer yn rhannu fflat efo Tony Blair pan oedd y ddau'n fargyfreithiwr ifanc yn Llundain yn niwedd y 1970au yn Wandsworth, wedi iddynt gyfarfod am y tro cyntaf fel disgyblion ysgol yn yr Alban yn y 1960au. Er i Blair ymhél a'r byd gwleidyddol bu Falconer yn canolbwyntio ar ei yrfa gyfreithiol. Cafodd ei godi'n Gwnsler y Frenhines ym 1991. Mae o bellach yn ymarfer y gyfraith fel partner yng nghwmni Gibson Dunn yn Llundain gan arbenigo yn ymgyfreitha masnachol cymhleth, cyflafareddu rhyngwladol ac ymchwiliadau.[5]

Ar 20 Gorffennaf 2010, dyfarnwyd iddo Ddoethuriaeth er anrhydedd yn y gyfraith (LLD) gan Brifysgol Nottingham Trent.[3]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwnaeth Falconer gais i fod yn ymgeisydd Llafur ar gyfer sedd ddiogel Gogledd Dudley cyn etholiad cyffredinol 1997, ond gwnaeth "smonach" o'i gyfweliad â phwyllgor yr etholaeth trwy wrthod cymryd ei blant allan o ysgolion preifat a methodd ennill yr enwebiad.[6]

Ar 14 Mai 1997, yn union ar ôl i Blair ddod yn Brif Weinidog, crëwyd Falconer yn arglwydd am oes fel y Barwn Falconer o Thoroton, o Thoroton yn Sir Swydd Nottingham.[7] Ef oedd yr arglwydd cyntaf a grëwyd ar argymhelliad y Prif Weinidog newydd, ac ymunodd â'r llywodraeth ar unwaith fel y Cyfreithiwr Cyffredinol.

Blwyddyn ar ôl ymuno â llywodraeth Blair symudodd i Swyddfa'r Cabinet a daeth yn rhan o'r holl faterion pwysig a wynebodd y llywodraeth o 1998 hyd etholiad 2001.

Wedi etholiad cyffredinol 2001 fe'i penodwyd yn Weinidog Tai, Cynllunio ac Adfywio ac yn 2002 daeth yn Weinidog Cyfiawnder Troseddol. Ym mis Mehefin 2003 daeth yn Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol cyntaf dros Faterion Cyfansoddiadol. Yn 2007 daeth yn Brif Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder gan ddod â llysoedd, carchardai a pholisi cyfiawnder at ei gilydd am y tro cyntaf.

Yn 2013 Cadeiriodd y Comisiwn ar Gymorth i Farw, a chyflwynodd Mesur Cymorth i Farw yn Nhŷ'r Arglwyddi, a geisiodd gyfreithloni ewthanasia yn y DU ar gyfer y rhai oedd â llai na chwe mis i fyw .[8]

Yn 2018, ymddiheurodd am ei rôl fel Arglwydd Ganghellor yn y rhyfel ar gyffuriau. Dwedodd ei fod bellach yn credu bod gwaharddiad cyffuriau wedi bod yn "drychineb echryslon" i dlodion byd-eang. Awgrymodd y dylai llywodraethau gymryd rheolaeth o gyflenwad cyffuriau, gan leihau cyfraniad gangiau treisgar, a chynhigiodd dylai bod rheoleiddio cyfreithiol ar gynhyrchu a chyflenwi cyffuriau fod ym maniffesto'r Blaid Lafur.[9]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Marianna Hildyard, sydd hefyd yn fargyfreithiwr, ym 1985. Roedd ei thad, Syr David Henry Thoroton Hildyard, yn Llysgennad Prydain i Chile. Daeth yn QC yn 2002. Mae ganddynt bedwar o blant.[10]

  1. (2018, December 01). Falconer of Thoroton, Baron, (Charles Leslie Falconer) (born 19 Nov. 1951). WHO'S WHO & WHO WAS WHO adalwyd 9 Rhagfyr 2018
  2. Syal, Rajeev; Perraudin, Frances (26 Mehefin 2016). "Shadow cabinet resignations: who has gone and who is staying". The Guardian. Cyrchwyd 8 Tachwedd 20186. Check date values in: |accessdate= (help)
  3. 3.0 3.1 3.2 "Blair's pal and valued confidant". Financial Times, London, UK, LONDON 2ND EDITION. 27 Sep 2003.
  4. "EDINBURGH'S NEXT LORD PROVOST: Mr John I. Falconer to Be Elected COUNCIL MEETING TO-DAY". The Scotsman Newspaper, Edinburgh, Scotland: p. 4. 10 November 1944.
  5. Gwefan Gibson Dunn Charles Falconer Partner adalwyd 9 Tachwedd 2018
  6. https://www.theguardian.com/commentisfree/2007/oct/08/uk.law
  7. "London Gazette". London Gazette. 19 May 1997. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2018.
  8. Demos People - Lord Falconer adalwyd 9 Tachwedd 2018
  9. Gayle, Damien (24 Medi 2018). "Labour peer Charles Falconer apologises over war on drugs". The Guardian. https://www.theguardian.com/society/2018/sep/24/labour-grandee-charles-falconer-apologises-for-his-war-on-drugs. Adalwyd 9 Rhagfyr 2018.
  10. (2018, December 01). Hildyard, Marianna Catherine Thoroton, (Lady Falconer of Thoroton), (born 24 Nov. 1955), QC 2002 a Circuit Judge, since 2012. WHO'S WHO & WHO WAS WHO adalwyd 9 Rhagfyr 2018