Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Yr Arglwydd Falconer, unig deiliad y swydd.

Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol yn swydd Cabinet Llywodraeth Prydain, a grëwyd yn 2003. Trosglwyddwyd rhai o swyddogaethau'r Arglwydd Ganghellor i'r Ysgrifennydd Gwladol newydd. Yn ddiweddarach, trosglwyddwyd swyddogaethau pellach i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol gan y Prif Ysgrifennydd Gwladol, swydd o fewn y llywodraeth a deiliwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog.

Unig ddeiliad y swydd oedd yr Arglwydd Falconer a oedd hefyd yn parhau i wasanaethu fel Arglwydd Ganghellor ar yr un pryd.

Crëwyd y swydd yn ffurfiol trwy gymeradwyaeth Gorchymyn Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol 2003 (OS 2003 Rhif 1887). Daeth y swydd i ben ar 9 Mai 2007, a throsglwyddwyd ei holl gyfrifoldebau i adran newydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder. Deiliad cyntaf y swydd newydd oedd yr Arglwydd Falconer hefyd.

Ysgrifenyddion Gwladol dros Gyfiawnder[golygu | golygu cod y dudalen]

Enw Delwedd Cyfnod yn y Swydd Plaid Prif Weinidog Nodiadau
Y Gwir Anrhydeddus
Yr Arglwydd Falconer o Thoroton
PC, QC[1]
Official portrait of Lord Falconer of Thoroton crop 2.jpg 12 Mehefin 2003 8 Mai 2007 Llafur Tony Blair Bu hefyd yn Arglwydd Ganghellor;
wedyn daeth yn Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]