Jane Hutt
| Jane Hutt AS | |
|---|---|
Llun swyddogol, 2024 | |
| Prif Chwip y Llywodraeth | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd 13 Rhagfyr 2018 | |
| Prif Weinidog | Mark Drakeford |
| Rhagflaenwyd gan | Julie James |
| Yn ei swydd 19 Mai 2016 – 3 Tachwedd 2017 | |
| Prif Weinidog | Carwyn Jones |
| Rhagflaenwyd gan | Janice Gregory |
| Dilynwyd gan | Julie James |
| Gweinidog dros Addysg a Sgiliau | |
| Yn ei swydd 19 Gorffennaf 2007 – 10 Rhagfyr 2009 | |
| Prif Weinidog | Rhodri Morgan |
| Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y swydd |
| Dilynwyd gan | Leighton Andrews |
| Aelod o Senedd Cymru dros Fro Morgannwg | |
| Yn ei swydd 6 Mai 1999 – 8 Ebrill 2026 | |
| Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y swydd |
| Manylion personol | |
| Ganwyd | 15 Rhagfyr 1949 Epsom, Lloegr |
| Plaid wleidyddol | Llafur Cymru |
| Priod | Michael Trickey |
| Plant | 2 ferch |
| Alma mater | Prifysgol Caint, Ysgol Economeg Llundain, Prifysgol Bryste |
| Swydd | Cynghorydd, undebwr llafur |
| Gwefan | Gwefan Swyddogol |
Gwleidydd Seisnig aelod o'r Blaid Lafur yw Jane Hutt (ganwyd 15 Rhagfyr 1949). Roedd yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth Bro Morgannwg rhwng 1999 a 2026.
Ganwyd Hutt yn Epsom, Lloegr; daeth ei nain a'i thaid, a oedd yn Gymry Cymraeg rhugl, o Gymru. Mae Jane hithau'n mynychu gwersi Cymraeg (2018).[1] Cafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Caint, Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain, a Phrifysgol Bryste.
Daeth yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ei hethol i Gynulliad Cymru a daliodd y swydd tan Ionawr 2005 er gwaethaf tipyn o feirniadaeth. Wedyn symudwyd hi i fod yn Drefnydd Busnes y Cynulliad ac yna daeth yn Weinidog Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Ers i Carwyn Jones ddod yn Brifweinidog yn 2009, hi oedd Gweinidog dros Gyllid a Busnes. Yna daeth yn Arweinydd y Tŷ a Phrif Chwip.
Ar 3 Tachwedd 2017, gadawodd Lywodraeth Cymru wedi gwasanaethu yn y cabinet am 18 mlynedd.[2] Dychwelodd i'r cabinet yn Rhagfyr 2018 fel Dirprwy Weinidog a Prif Chwip o dan arweinyddiaeth Mark Drakeford.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ janehutt.wales; Archifwyd 2020-09-28 yn y Peiriant Wayback adalwyd 16 Rhagfyr 2018.
- ↑ Sargeant a Hutt allan o gabinet Llywodraeth Cymru , 3 Tachwedd 2017.
- ↑ Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Llywodraeth Cymru (13 Rhagfyr 2018).
| Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod Cynulliad dros Fro Morgannwg 1999 – presennol |
Olynydd: deiliad |
- Genedigaethau 1949
- Pobl o Surrey
- Gwleidyddion y Blaid Lafur (DU)
- Aelodau Llywodraeth Cymru
- Gwleidyddion yr 20fed ganrif o Gymru
- Gwleidyddion yr 21ain ganrif o Gymru
- Merched yr 21ain ganrif
- Merched yr 20fed ganrif
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999–2003
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2003–2007
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007–2011
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016–2021
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011–2016
- Aelodau Senedd Cymru 2021–2026