Lesley Griffiths

Oddi ar Wicipedia
Lesley Griffiths
AS
Aelod o Senedd Cymru
dros Wrecsam
Deiliad
Cychwyn y swydd
3 Mai 2007
Rhagflaenwyd ganJohn Marek
Mwyafrif1,325 (6.5%)
Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Deiliad
Cychwyn y swydd
19 Mai 2016
Prif WeinidogCarwyn Jones
Mark Drakeford
Rhagflaenwyd ganCarl Sargeant
Gweinidog dros Gymunedau a Threchu Tlodi
Yn ei swydd
11 Medi 2014 [1] – 19 Mai 2016
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganJeffrey Cuthbert
Dilynwyd ganCarl Sargeant
Llywodraeth Lleol a Busnes Llywodreth
Yn ei swydd
14 Mawrth 2013 [2] – 11 Medi 2014
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganCarl Sargeant
Dilynwyd ganLeighton Andrews fel Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus, Jane Hutt fel Gweinidog dros Fusnes Llywodraeth
Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn ei swydd
13 Mai 2011 – 14 Mai 2013
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganEdwina Hart
Dilynwyd ganMark Drakeford
Manylion personol
Ganwyd1960 (63–64 oed)
Plaid wleidyddolLlafur Cymru
SwyddYmgynghorwr gwleidyddol
GwefanGwefan Llafur Cymru

Gwleidydd Llafur Cymru yw Susan Lesley Griffiths AC, a adwaenir fel Lesley Griffiths (ganwyd 1960) sydd yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth Wrecsam ers 2007.[3]

Bu'n gweithio fel ysgrifennydd i John Marek a chynorthwy-ydd etholaeth i Ian Lucas, dau gyn Aelod Seneddol dros Wrecsam. Yn 2011, fe'i penodwyd yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.[4] swydd y bu ynddi hyd fis Mawrth 2012. Mae hi ar hyn o bryd yn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.[5]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Ymgyrch 2003[golygu | golygu cod]

Cafodd John Marek ei dynnu o restr ymgeiswyr y Blaid Lafur yn 2003 wedi iddo gael sawl anghytundeb gyda'i blaid; fe aeth ati i apelio yn erbyn y penderfyniad. Yn dilyn ymchwiliad gan y Blaid Lafur, lle cysylltwyd â Marek yn gyntaf dros y ffôn hanner awr cyn cyhoeddi'r canlyniad, cafodd y penderfyniad ei gadarnhau, a phenderfynodd Marek ymladd i gadw'i sedd fel aelod Annibynnol.[6] Dewiswyd Griffiths i'w olynu fel ymgeisydd swyddogol y Blaid Lafur a gwynebodd frwydr yn ystod yr ymgyrch; dangosodd arolwg cynnar bod Marek yn ei churo o 40% i 29%.[7] Ar ddiwrnod yr etholiad, roedd Griffiths wedi cau'r bwlch, ond fe gollodd o 973 pleidlais.

Etholiad 2007[golygu | golygu cod]

Yn Rhagfyr 2005 cafodd ei dewis unwaith eto fel ymgeisydd Llafur etholaeth Wrecsam yn etholiad y Cynulliad, 2007. Fe elwodd o gymorth proffil uchel wrth i'r blaid weld cyfle i adennill y sedd; apeliodd John Marek at y boblogaeth o fewnfudwyr Pwylaidd drwy gyfieithu ei ddeunydd etholiadol i Bwyleg.[8] Fodd bynnag, cynyddodd Griffiths nifer ei phleidlais tra disgynnodd pleidlais Marek, ac enillodd hi'r sedd gyda mwyafrif o 1,250.

Yn 2011, cystadlodd Griffiths yn erbyn Marek am y trydydd tro, er bod Marek erbyn hyn wedi ymuno â'r Ceidwadwyr. Fe wnaeth y ddau gynyddu eu pleidleisiau o'i gymharu â 2007, ond cadwodd Griffiths sedd gyda chynnydd yn ei mwyafrif o 3,337.[9] Ail-ddewiswyd Griffiths i amddiffyn ei sedd yn etholiad 2016.[10]

Cyfrifoldeb gweinidogol[golygu | golygu cod]

Penodwyd Griffiths yn Ddirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau yn Rhagfyr 2009.[11] Ar ôl etholiad 2011, cafodd ei dyrchafu'n Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a bu yn y swydd tan fis Mawrth 2013, pan y penodwyd hi'n Weinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Wedi bod yn un o gefnogwyr Clwb pêl-Droed Wrecsam, cafodd Griffiths ei ethol i fwrdd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-29156951
  2. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-21789790
  3. http://www.senedd.assemblywales.org/mgUserInfo.aspx?
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-22. Cyrchwyd 2016-05-10.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-22. Cyrchwyd 2016-05-10.
  6. Martin Shipton, "Marek likely to stand as independent", Western Mail, 12 Mawrth 2003.
  7. Kirsty Buchanan, "Marek beating Labour", Western Mail, 11 Ebrill 2003.
  8. Allegra Stratton, "'Glosuj na mnie!'"
  9. "BBC News - Election 2011". BBC News. Cyrchwyd 16 Chwefror 2016.
  10. "Starting Gun Fired For Wrexham's National Assembly For Wales Election 2016". wrexham.com. Cyrchwyd 16 Chwefror 2016.
  11. "Welsh Assembly Government:Lesley Griffiths AM". Gwefan Llywodraeth Cymru. Llywodraeth Cymru. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-14. Cyrchwyd 16 May 2010.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]