Julie James

Oddi ar Wicipedia
Julie James
AS
Gweinidog Tai a Llywodraeth Lleol
Deiliad
Cychwyn y swydd
13 Rhagfyr 2018
Prif WeinidogMark Drakeford
Rhagflaenwyd ganAlun Davies
Arweinydd y Tŷ
Prif Chwip
Yn ei swydd
3 Tachwedd 2017 – 13 Rhagfyr 2018
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganJane Hutt
Dilynwyd ganJane Hutt &
Rebecca Evans
Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Yn ei swydd
11 Mai 2014 – 3 Tachwedd 2017
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganKen Skates
Dilynwyd ganLee Waters
Aelod o Senedd Cymru
dros Orllewin Abertawe
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 2011
Rhagflaenwyd ganAndrew Davies
Mwyafrif5,080
Manylion personol
Ganwyd (1958-02-25) 25 Chwefror 1958 (66 oed)
Abertawe
CenedligrwyddCymraes
Plaid wleidyddolLlafur Cymru
PriodDavid
Plant3
Alma materPrifysgol Sussex
Polytechnic Canol Llundain
Ysgol y Gyfraith Inns of Court
GalwedigaethBargyfreithiwr, Gwas sifil
GwefanGwefan wleidyddol

Gwleidydd Llafur Cymru yw Julie James AS (ganwyd 25 Chwefror 1958)[1]. Mae'n Aelod o'r Senedd dros etholaeth Gorllewin Abertawe ers 2011.[2][3]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Cafodd ei geni yn Abertawe, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i blynyddoedd iau yn byw mewn amryw lefydd o gwmpas y byd gyda'i theulu. Yn 16 oed ymunodd â'r Blaid Lafur a hi oedd y cyntaf o'i theulu i astudio yn y brifysgol.[4][5]

Ganwyd Julie i rieni ifanc ac roedd yn unig blentyn nes geni ei chwaer, pan oedd hi'n 8 mlwydd oed a ganwyd ei brawd pan oedd yn 15. Mae ei chwaer yn byw yn Abertawe ac ei brawd Richard yw'r cerddor adnabyddus Aphex Twin.[6]

Gyrfa broffesiynol[golygu | golygu cod]

Yn gyntaf astudiodd James Astudiaethau Americanaidd a Hanes ym Mhrifysgol Sussex, gan raddio ym 1980. Yna aeth i astudio'r Gyfraith yng Ngholeg Polytechnig Canol Llundain, gan raddio yn 1982, ac aeth ymlaen i Ysgol y Gyfraith Inns of Court  yn Llundain i hyfforddi fel bargyfreithiwr, gan basio'r bar yn 1983.

Cychwynnodd ei gyrfa yn gweithio fel cyfreithiwr polisi gyda Bwrdeistref Camden yn Llundain. Yna symudodd yn ôl i Abertawe i fagu ei thri phlentyn a dechreuodd weithio i Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg fel Ysgrifennydd Cynorthwyol y Sir (Gwasanaethau Cyfreithiol).

Yn ddiweddarach gweithiodd James ar gyfer Ddinas a Sir Cyngor Abertawe, lle ei swydd olaf oedd Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu). Fe adawodd mewn protest pan arwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol gontract roedd hi'n ystyried ei fod wedi gwastraffu 'miliynau o bunnoedd'. Aeth yn ei blaen i ymuno gyda chyfreithwyr Clarkslegal LLP yn arbenigo mewn Cyfraith Amgylcheddol a Chyfansoddiadol.[4][7]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Ar 5 Mai 2011, etholwyd James fel Aelod Cynulliad dros etholaeth Gorllewin Abertawe.[2]

Ers hynny mae hi wedi eistedd ar nifer o bwyllgorau, gan gynnwys 'Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol', 'Pwyllgor Menter a Busnes' a 'Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd'. Mae hi wedi cadeirio grwpiau gorchwyl a gorffen caffael a physgodfeydd cyffredin[8]

Penodwyd James ym Medi 2014 fel y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yn dilyn ad-drefnu gan Carwyn Jones, yn disodli Ken Skates a benodwyd yn Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.[9]

Ar 3 Tachwedd 2017, fe'i penodwyd yn Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip gyda chyfrifoldeb dros isadeiledd ddigidol a sgiliau. Ar 13 Tachwedd 2018 o dan arweinyddiaeth Prif Weinidog newydd, fe'i penodwyd i'r cabinet llawn fel Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Bu farw ei phartner tymor hir mewn gwrthdrawiad car yn 1988 pan oedd eu merch yn 11 mis oed. Roedd yn byw yn Llundain ar y pryd, newydd gymhwyso fel fargyfreithiwr. Wedi hyn penderfynodd newidiodd gyrfa ac ath i weithio ym myd llywodraeth leol yn Camden yng ngogledd Llundain. Fe ail-briododd gyda David Flatt a mae ganddynt ddau o blant eu hunain.[6]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Julie JAMES. Tŷ'r Cwmniau. Adalwyd ar 2 Mawrth 2021.
  2. 2.0 2.1 "Wales elections > Swansea West". BBC News. 6 May 2011. Cyrchwyd 8 Mawrth 2011.
  3. "Julie James | The Welsh Labour Party". Welshlabour.org.uk. 2010-02-27. Cyrchwyd 2011-11-21.[dolen marw]
  4. 4.0 4.1 "About Julie James AM - Assembly Member Website". juliejamesam.co.uk. 2016-04-11. Cyrchwyd 2016-04-11.[dolen marw]
  5. "All About Julie - Campaign Website". swanseawest.wales. 2016-04-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-24. Cyrchwyd 2016-04-11.
  6. 6.0 6.1 AS wedi 'dysgu byw gyda'r profiad' o golli ei gŵr , BBC Cymru Fyw, 4 Awst 2021.
  7. "Facebook Campaign Page". Facebook.com. 2016-04-11. Cyrchwyd 2016-04-11.
  8. "Julie James, Swansea West - Welsh Labour". Welshlabour.wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-18. Cyrchwyd 2016-04-11.
  9. "New Cabinet announced by First Minister - Welsh Government". http://gov.wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 2016-04-11. External link in |publisher= (help)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]