Y Democratiaid Rhyddfrydol (DU)

Oddi ar Wicipedia
Y Democratiaid Rhyddfrydol
Liberal Democrats
ArweinyddJo Swinson
Dirprwy ArweinyddEd Davey
LlywyddY Farwnes Brinton
Sefydlwyd3 Mawrth 1988 [1]
Unwyd gydaPlaid Ryddfrydol (DU)
Democratiaid Cymdeithasol
Pencadlys8–10 Great George Street,
Llundain, SW1P 3AE [2]
Asgell yr ifancLiberal Youth
Aelodaeth  (3 Mehefin 2015)increase 61,456 [3]
Rhestr o idiolegauRhyddfrydiaeth
Rhyddfrydiaeth gymdeithasol
Sbectrwm gwleidyddolCanol
Partner rhyngwladolLiberal International
Lliw     Melyn/Oren
Tŷ'r Cyffredin
11 / 650
[4]
Tŷ'r Arglwyddi
86 / 790
[5]
Cynulliad Llundain
1 / 25
Llywodraeth leol
248 / 19,698
[6]
Senedd yr Alban
5 / 129
Senedd Cymru
1 / 60
Gwefan
libdems.org.uk
Paddy Ashdown yn canfasio yn Chippenham yn 1992. Bu'n arweinydd rhwng 1988 a 1999.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn blaid wleidyddol ryddfrydol, gymdeithasol sy'n gweithredu yn y Deyrnas Unedig ac a elwir ar lafar yn Lib Dems. Hyd at 2015, hi oedd y drydedd blaid fwyaf o'r pleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig.[7][8][9]

Ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 1988 pan unwyd y Blaid Ryddfrydol a Plaid y Democratiaid Cymdeithasol (Social Democratic Party neu'r "SDP"). Cyn hynny am saith mlynedd, roedd y ddwy blaid wedi ffurfio'r 'Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr'. Hyd at 1988, bu'r Blaid Ryddfrydol mewn bodolaeth am 129 mlynedd, gydag arweinwyr cryf a Chymreig megis Gladstone a Lloyd George. Rhoddwyd cryn bwyslais ar ddiwygiadau rhyddfrydol er lles y gymdeithas, ac arweiniodd hyn at sefydlu'r Wladwriaeth les yng ngwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon. Yn 1920, fodd bynnag, goddiweddwyd y Rhyddfrydwyr gan y Blaid Lafur, fel y prif fygythiad i'r Blaid Geidwadol. Gwahanwyd y Rhyddfrydwyr a'r Llafurwyr ymhellach yn 1981 oherwydd i'r Blaid Lafur droi fwyfwy i'r asgell chwith.[10][11]

Etholwyd Nick Clegg yn Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2007 ac yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010, cipiwyd 57 o'r seddi ganddynt, a nhw felly oedd y drydedd blaid fwyaf o ran nifer yr Aelodau Seneddol. Roedd gan y Ceidwadwyr 307 a Llafur 258 AS, a gan nad oedd gan yr un blaid y mwyafrif clir, ymunodd y Democratiaid Rhyddfrydol gyda'r Ceidwadwyr i ffurfio cynghrair a phenodwyd Clegg yn Ddirprwy Brif Weinidog y DU.[12] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015, lleihawyd nifer ei haelodau Seneddol i 8 ac ymddiswyddodd Clegg fel Arweinydd ei blaid.[13]

Ffurfio[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol ar 3 Mawrth 1988 pan unwyd y Blaid Ryddfrydol gyda'r Democratiaid Cymdeithasol, ond daeth i gytundeb gyda'i gilydd saith mlynedd ynghynt pan ffurfiwyd y 'Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr' (SDP–Liberal Alliance).[1] Tarddiad y Blaid Ryddfrydol oedd y Chwigiaid, y Radicaliaid a'r Peelites (yn 1859). Roedd yr SDP cryn dipyn yn iau - fe'i crewyd yn 1982 gan gyn-aelodau seneddol y Blaid Lafur, gydag ambell Geidwadwr a newidiodd ei liw.[14]

Sylweddolodd yr SDP a'r Rhyddfrydwyr - yn gam neu'n gymwys - nad oedd lle i bedair plaid yng ngwleidyddiaeth gwledydd Prydain, a daethpwyd i gytundeb (neu 'Gynghrair') na fyddent yn sefyll yn erbyn ei gilydd mewn etholiad. Arweinyddion y Gynghrair oedd David Steel o'r Rhyddfrydwyr a Roy Jenkins ar ran yr SDP; cyn hir, daeth David Owen i gymryd lle Jenkins.[14] Roedd gan y ddwy blaid eu polisiau eu hunain, ond cyflwynwyd un maniffesto ar gyfer Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1987.

Arweinwyr[golygu | golygu cod]

Canlyniadau mewn Etholiadau Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Etholiad
cyffredinol
Enw Arweinydd Cyfran o'r
bleidlais
Seddi Cyfran o'r
seddi
Ffynhonnell
1983 Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr David Steel

David Owen

25.4%
23 / 650
3.5% [15]
1987 Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr 22.6%
22 / 650
3.4% [15]
1992 Democratiaid Rhyddfrydol Paddy Ashdown 17.8%
20 / 651
3% [16]
1997 Democratiaid Rhyddfrydol 16.8%
46 / 659
7% [16]
2001 Democratiaid Rhyddfrydol Charles Kennedy 18.3%
52 / 659
8% [17]
2005 Democratiaid Rhyddfrydol 22.0%
62 / 646
10% [18]
2010 Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg 23.0%
57 / 650
9% [19]
2015 Democratiaid Rhyddfrydol 7.9%
8 / 650
1.2% [20]
2017 Democratiaid Rhyddfrydol Tim Farron 7.4%
12 / 650
1.8% [21]
2019 Democratiaid Rhyddfrydol Jo Swinson 11.6%
11 / 650
1.7% [22]

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Aelodaeth
2001 73,276[23]
2002 71,636[23]
2003 73,305[24]
2004 72,721[25]
2005 72,031[26]
2006 68,743[27]
2007 65,400[28]
2008 59,810[29]
2009 58,768[30]
2010 65,038[31]
2011 48,934[32]
2012 42,501[33]
2013 43,451[34]
2015 61,456[35]

Gwelir hefyd[golygu | golygu cod]

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - y Blaid yng Nghymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Robert Ingham and Duncan Brack, Peace, Reform and Liberation – A History of Liberal Politics in Britain 1679–2011, Biteback Publishing, 2011.
  2. "Revealed: The Liberal Democrats' new HQ". Libdemvoice.org. 21 Mai 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-24. Cyrchwyd 26 Mawrth 2013.
  3. "Membership Figures". Liberal Democrats. 17 Mehefin 2015. Cyrchwyd 17 Mai 2015.
  4. Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019
  5. "Lords by party and type of peerage". Senedd y DU. August 2014. Cyrchwyd Awst 2014. Check date values in: |accessdate= (help)
  6. . Open Council Data. 28 Mai 2019 http://www.opencouncildata.co.uk/index.php. Cyrchwyd 28 Mai 2019. Missing or empty |title= (help)
  7. http://www.economist.com/news/britain/21645809-survive-party-government-lib-dems-must-hold-south-west-england-they-probably
  8. http://www.bbc.co.uk/programmes/p02ps438
  9. http://www.newstatesman.com/politics/2014/10/why-being-centrist-party-hasnt-helped-lib-dems
  10. Mike Finn (PSA Symposium) (Ebrill 2014). The Coalition and the Liberal Democrats: The Radical Centre in action?. Political Studies Association (forthcoming).
  11. Mark Satin (2004). Radical Middle: The Politics We Need Now. Westview Press and Basic Books. ISBN 978-0-8133-4190-3.
  12. "David Cameron is UK's new prime minister". bbc.co.uk. 12 Mai 2010. Cyrchwyd 12 Mai 2010.
  13. "Election results: Nick Clegg resigns after Lib Dem losses". BBC News. 8 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-24. Cyrchwyd 15 Mai 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  14. 14.0 14.1 "A concise history of the Liberal Parties, SDP and Liberal Democrats". Liberal Democrat History Group. 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-29. Cyrchwyd 2015-06-24. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  15. 15.0 15.1 "Statistics 1980s". Electoral Reform Society. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-05. Cyrchwyd 13 April 2008.
  16. 16.0 16.1 "Statistics 1990s". Electoral Reform Society. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-05. Cyrchwyd 15 Mai 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  17. "Results & Constituencies". BBC. 2001. Cyrchwyd 29 Mawrth 2008.
  18. Kettle, Martin (26 Ebrill 2005). "Kennedy can still exploit this perfect political storm". The Guardian. Llundain. Cyrchwyd 21 Mawrth 2008.
  19. Election 2010 United Kingdom – National Results BBC News
  20. "20 things you Mai have missed from the election". BBC News. 8 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-10. Cyrchwyd 15 Mai 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  21. "Results of the 2017 General Election". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-04.
  22. "Results of the 2019 General Election". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-04.
  23. 23.0 23.1 "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2002" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  24. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2003" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  25. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2004" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  26. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2005" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  27. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2006" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  28. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2007" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  29. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2008" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  30. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2009" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  31. Eaton, George (25 Gorffennaf 2013). "Lib Dem money woes grow as party membership hits new low". New Statesman. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-24. Cyrchwyd 15 Mai 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  32. "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2011". The Liberal Democrats. t. 27. Cyrchwyd 2 Awst 2012.
  33. Titley, Simon (19 Ionawr 2013). "Liberator's blog: Has the fall in party membership finally ended?". Liberator. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2013.
  34. Rathe, Austin (8 Ionawr 2014). "Liberal Democrats end year with historic membership growth – but we must keep up the good work". Liberal Democrat Voice. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-30. Cyrchwyd 2015-06-24.
  35. http://www.libdems.org.uk/membership_figures

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.