Jayne Bryant
Gwedd
| Jayne Bryant AS | |
|---|---|
Llun swyddogol, 2026 | |
| Aelod o'r Senedd | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd 6 Mai 2016 | |
| Rhagflaenwyd gan | Rosemary Butler |
| Etholaeth | Gorllewin Casnewydd (2016-2026) Casnewydd Islwyn (2026-presennol) |
| Manylion personol | |
| Ganwyd | Casnewydd |
| Plaid wleidyddol | Llafur Cymru |
| Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwleidydd Llafur Cymru yw Jayne Bryant. Mae'n Aelod o'r Senedd dros etholaeth Casnewydd Islwyn ers 2026 a chyn hynny dros Gorllewin Casnewydd ers 2016.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Cafodd Bryant ei geni yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd. Mynychodd Ysgol Uwchradd St Julian ac aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Keele.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Roedd yn ymgeisydd rhanbarthol dros Gymru yn Senedd Ewrop yn yr ail le ar restr y blaid Lafur yn 2014, ond ni etholwyd.[1] Fe'i dewiswyd fel ymgeisydd Llafur dros Orllewin Casnewydd ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2016 i ddilyn Rosemary Butler oedd yn ymddeol,[2] ac fe gadwodd y sedd i Lafur.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Martin Shipton (13 August 2013). "Jayne Bryant targets seat at the European Parliament". walesonline.
- ↑ "Jayne Bryant chosen as Labour candidate for Newport West seat". South Wales Argus.
- ↑ "ASSEMBLY ELECTION 2016: Labour retains Newport West". South Wales Argus.