Iechyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ambiwlans awyr Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Yn gyffredinol, diffinir iechyd fel "cyflwr corfforol, meddyliol a chymdeithasol cyflawn ac nid absenoldeb afiechyd neu wendid yn unig". Defnyddir y diffiniad hwn gan Gyfundrefn Iechyd y Byd ers 1948.

Ym 1986, yn Siarter Hybu Iechyd Ottawa, dywedodd Cyfundrefn Iechyd y Byd fod iechyd yn "adnodd ar gyfer bywyd bob dydd, nid nod bod yn fyw. Mae iechyd yn gysyniad cadarnhaol sy'n pwysleisio adnoddau cymdeithasol a phersonol, yn ogystal a gallu corfforol".

Daw iechyd cyffredinol drwy gyfuniad o gyflyrrau corfforol, meddyliol, emosiynol a chymdeithasol cadarnhaol.

Cerrig milltir yng Nghymru[golygu]

  • c.945 Crybwyllai Deddfau Hywel Dda y gall meddygon godi arian ar glaf am ei wella.
  • 1349 Y Pla Du'n ymddangos gyntaf yng Nghymru gan ladd hyd at 100,000 erbyn 1420.
  • 1354 Henry, Dug Lancaster, a anwyd yng Nghastell Y Grysmwnt, Sir Fynwy, yn sgwennu Le Livre des Seintes Medicines (Llyfr Meddygaeth Cysegredig).
  • 1470 Blwyddyn geni Bened ap Rhys (neu Bened Feddyg) yn Nyffyn Clwyd, sef awdur y llyfryn cyntaf Cymraeg ar feddygaeth.
  • 1490au Lewis o Gaerleon yn feddyg i Harri VII, brenin Lloegr ac o bosibl Catrin o Aragon.
  • 1652 Diwedd y pla yng Nghymru, gyda 400 yn marw yn Hwlffordd.
  • 1705 Y frech wen yn lladd 60 o drigolion Penmachno, Gwynedd.
  • 1726 - 31 Cannoedd yn marw led led Cymru o deiffws (neu tyffws; typhus)
  • 1739 Marwolaeth John Jones, yr olaf o deulu Meddygon Myddfai.
  • 1817 Codi'r ysbyty cyntaf: yn Abertawe.
  • 1832 Y geri marwol (neu Colera) yn lladd tua 500 o bobl drwy Gymru.
  • 1849 Ail epidemig o golera yn lladd tua 3,000 drwy Gymru.
  • 1851 Y swyddog iechyd cyntaf yn cael ei benodi, a hynny yn Nhywyn, Meirionnydd (bellach Gwynedd).
  • 1854 Trydydd ymddangosiad o'r geri marwol, pan laddwyd 1,000 o bobl.
  • 1865 Y cryd melyn (yellow fever) yn lladd 15 yn Abertawe. Dyma unig ymddangosiad y feirws hwn erioed yng ngwledydd Prydain.
  • 1866 Pedwaredd epidemig colera - a'r olaf - yn lladd tua 2,000.
  • 1870 Ffurfio "Cymdeithas Meddygol Caerdydd"; y cyntaf o'i bath.
  • 1885 Cofrestrwyd Frances Hoggan yn feddyg - y ferch gyntaf yng Nghymru.
  • 1910 Sefydlwyd cymdeithas i ymgyrchu i atal y ddarfodedigaeth neu'r diciâu sef "The King Edward Vll National Memorial Association".
  • 1912 Sefydlu Comisiwn Yswiriant Gwasanaeth Iechyd Cymru.
  • 1915 Baddondai cyntaf yn agor mewn glofa, a hynny yng nglofa Deep Navigation, Treharris, Gwent.
  • 1918 - 19 Pandemig ffliw neu'r "ffliw Sbaenaidd" yn lladd 10,000 drwy Gymru.
  • 1919 Bwrdd Iechyd Cymru yn cael ei ffurfio .
  • Sefydlu Tenovus yng Nghaerdydd.
  • 1962 Y frech wen yn lladd 17 o bobl yn ne Cymru.
  • Cyhoeddi Termau Meddygol gan Fwrdd Astudiaethau Celtaidd.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

Rod of asclepius.png Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am iechyd
yn Wiciadur.