Neidio i'r cynnwys

Gwent

Oddi ar Wicipedia
Gwent
Mathsiroedd cadwedig Cymru, cyn endid gweinyddol tiriogaethol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,553 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDe Morgannwg, Morgannwg Ganol, Powys, Swydd Henffordd, Swydd Gaerloyw Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.789°N 3.018°W, 51.8°N 3°W Edit this on Wikidata
Map
Am y deyrnas hynafol, gweler Teyrnas Gwent.

Mae Gwent yn sir cadwedig yn ne-ddwyrain Cymru. Bu'n sir weinyddol rhwng 1974 a 1996. Fe'i cedwir at bwrpasau seremonïol sy'n ymwneud â swydd Uchel Siryf Gwent fel cynrychiolydd Brenhin y Deyrnas Unedig yn unig. Defnyddir yr enw gan sawl cymdeithas ranbarthol hefyd, e.e. Ymddiriedolaeth Natur Gwent.

Gwent yng Nghymru, 1974–96

Mae hanes hir o ddefnyddio'r enw am y rhan hon o Gymru ar ochr orllewinol rhan fwyaf deheuol Glawdd Offa. Roedd Teyrnas Gwent yn un o hen deyrnasoedd y Cymry. Mae tiriogaeth sir seremonïol Gwent yn debyg i diriogaeth yr hen Sir Fynwy, a grëwyd adeg y Deddfau Uno, ac am flynyddoedd byddai cyfeirio mewn ffynonellau Seisnig at "Gymru a Sir Fynwy" (Wales and Monmouthshire). Yr unig wahaniaeth rhyngddi a siroedd eraill Cymru oedd ei bod yn rhan o gylchdaith llysoedd Rhydychen yn hytrach na Chymru.

Edrychir ar yr ardal heddiw fel ardal Seisnig ond roedd yn ardal Gymreig iawn tan ddechrau'r chwyldro diwydiannol. Yn y 14g a'r 15g roedd beirdd fel Guto'r Glyn a Lewis Glyn Cothi yn cael nawdd gan ŵyr mawr yr ardal. Cyfeiria Dafydd ap Gwilym at un o deulu'r Morganiaid Ifor ap Llywelyn fel Ifor Hael.

Gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ffurfiwyd nifer o gymdeithasau Cymraeg yng Ngwent. Yr enwocaf oedd Cymdeithas y Cymreigyddion.

Y sir weinyddol

[golygu | golygu cod]

Cafodd siroedd hynafol Cymru eu hail-drefnu'n drylwyr o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Roedd Gwent yn un o'r siroedd gweinyddol newydd a grëwyd ac a ddaeth i fodolaeth ar 1 Ebrill 1974.

Yn fras roedd gan Gwent yr un ffiniau â'r hen Sir Fynwy.

Dyma oedd y newid lleiaf mewn gwirionedd i faint sir yng Nghymru o dan Ddeddf 1972.

Didymwyd Gwent fel sir weinyddol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, fe'i rhannwyd yn bum awdurdod unedol newydd a grëwyd ac a ddaeth i fodolaeth ar 1 Ebrill 1996:

Ar ôl 1996 daeth Gwent yn sir cadwedig sydd â phwrpas seremoïol yn unig, yn ymwneud yn bennag â rhaglawiaeth.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]