Neidio i'r cynnwys

Sir Fynwy

Oddi ar Wicipedia
Sir Fynwy
ArwyddairUTRIQUE FIDELIS Edit this on Wikidata
Mathprif ardaloedd Cymru Edit this on Wikidata
PrifddinasBrynbuga Edit this on Wikidata
Poblogaeth94,142 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd849.088 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Hafren, Afon Gwy Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSwydd Henffordd, Ardal Fforest y Ddena, Blaenau Gwent, De Swydd Gaerloyw, Casnewydd, Dinas Bryste, Swydd Gaerloyw, Powys, Torfaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.78°N 2.87°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW06000021 Edit this on Wikidata
GB-MON Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y brif ardal gyfoes yw hon. Am y sir hanesyddol a ddiddymwyd yn 1974, gweler Sir Fynwy (hanesyddol).

Un o'r 22 prif ardal Cymru yw Sir Fynwy (Saesneg: Monmouthshire), sy'n sir yn ne-ddwyrain Cymru a grewyd ar 1 Ebrill 1996 wrth ad-drefnu llywodraeth leol. Llywodraethir y sir gan Gyngor Sir Fynwy, sydd â'i bencadlys yn nhref Brynbuga. Mae'n rhan o sir cadwedig Gwent, endid symbolaidd i raddau helaeth erbyn heddiw.

Mae'r Sir Fynwy gyfoes yn rhannu ei henw â'r hen Sir Fynwy hanesyddol a oedd yn un o'r tair sir ar ddeg yng Nghymru a ddilëwyd gan adrefnu llywodraeth leol yn 1974. Serch hynny, mae maint y sir gyfoes yn llai na'r sir hanesyddol; bellach mae ganddi ychydig dros hanner ei harwynebedd blaenorol.

Yn yr Oesoedd Canol Cynnar bu'r diriogaeth yn rhan o deyrnas Gwent. O 1069 ymlaen syrthiodd rhan helaeth yr ardal i ddwylo'r Normaniaid a daeth yn rhan o dir Y Mers, er bod rhannau o'r ucheldir yn dal yn nwylo arglwyddi Cymreig lleol.

Crëwyd yr hen Sir Fynwy yn y flwyddyn 1542 allan o'r hen arglwyddiaethau yn yr ardal. Roedd yn cynnwys Casnewydd ac yn ffinio â Swydd Gaerloyw i'r dwyrain, Swydd Henffordd i'r gogledd-ddwyrain, Sir Frycheiniog i'r gogledd a Morgannwg i'r gorllewin.

Daeth yn rhan o sir Gwent yn 1974. Ffurfwyd y sir newydd yn 1996.

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Rhennir y sir yn 33 o gymunedau:

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Trefi a phrif bentrefi

[golygu | golygu cod]

Cestyll

[golygu | golygu cod]