Blaenau Gwent

Oddi ar Wicipedia
Blaenau Gwent
ArwyddairUndeb a Rhyddid Edit this on Wikidata
Mathprif ardal Edit this on Wikidata
Poblogaeth69,713 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iOberhausen-Rheinhausen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd108.7279 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSir Fynwy, Caerffili, Powys, Torfaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7758°N 3.1964°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW06000019 Edit this on Wikidata
GB-BGW Edit this on Wikidata
Map
Am yr etholaeth Westminster, gweler Blaenau Gwent (etholaeth seneddol)

Mae Blaenau Gwent yn fwrdeistref sirol yn rhanbarth Gwent, de-ddwyrain Cymru. Mae'n ffinio ag ardaloedd awdurdod unedol o Dorfaen a Sir Fynwy i'r dwyrain, Caerffili i'r gorllewin, a Phowys i'r gogledd. Abertyleri, Brynmawr, Glyn Ebwy, a Thredegar yw'r prif drefi.

Blaenau Gwent yng Nghymru

Llywodraeth[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y fwrdeistref ym 1974 fel dosbarth llywodraeth leol o Went. Cyfunwyd hen ddosbarthau trefol Sir Fynwy, gan gynnwys Abertyleri, Glyn Ebwy, Nant-y-glo, y Blaenau a Thredegar, yn ogystal â Brynmawr a phlwyf Llanelli yn Sir Frycheiniog.

Ailansoddiwyd ym 1996 fel bwrdeistref sirol, gan eithrio Llanelli a aiff yn lle i Sir Fynwy. Rheolir yr ardal gan Gyngor Bwrdeistref Siriol Blaenau Gwent bellach.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae pobl wedi byw yn yr ardal hon ers dros 4,000 o flynyddoedd. Dyma ble roedd pobl Geltaidd o'r enw'r Silwriaid yn byw. I'r Cymry, yr enw ar yr ardal hon rhwng Afon Sirhywi ac Afon Gwy oedd Gwent. Roedd pobl Gwent yn siarad tafodiaith Gymraeg o'r enw 'Gwenhwyseg' am amser hir iawn. Ym 1542, daeth enw newydd i'r ardal - Sir Fynwy. Yna, daeth y Chwyldro Diwydiannol a daeth newid. Agorodd gwaith haearn yn Sirhywi ym 1779 ac wedyn mewn llefydd fel Glyn Ebwy, Tredegar, a Nant-y-glo. Daeth llawer o bobl newydd i'r ardal i weithio ac roedd llawer iawn yn Gymry Cymraeg. Wedyn, daeth y gwaith glo ac wedyn y gwaith dur. Roedd llawer iawn o bobl yn dod i'r ardal ac roedd iaith y Cymoedd yn newid yn araf o Gymraeg i Saesneg. Ym 1801, roedd 45,000 o bobl yn byw yn yr hen Sir Fynwy ac erbyn 1901, roedd 450,000 o bobl yn yr ardal ac roedd y rhan fwyaf yn siarad Saesneg. Ym 1991, dim ond 2.2% o'r bobl oedd yn gallu siarad Cymraeg, ond erbyn 2001, roedd 9.5% yn siarad Cymraeg ac mae nifer y bobl ifanc sy'n siarad yr iaith yn codi bob blwyddyn, gan fod ysgol gynradd Gymraeg newydd yno o'r enw Ysgol Gynradd Bro Helyg a leolir yn y Blaenau (Ysgol Gymraeg Brynmawr] cyn hynny); Ysgol Gymraeg Bro Helyg.[1]

Cymunedau[golygu | golygu cod]

Gwybodaeth arall[golygu | golygu cod]

Mae gan Blaenau Gwent y lefel uchaf o dlodi plant difrifol yng Nghymru, fel y datgelir gan ddata ystadegol yn ôl adroddiad gan Achub y Plant.

Yn ôl y Cyfrifiad 2011, mae 5,284 o breswylwyr y sir (neu 7.8%) yn gallu siarad Cymraeg, mewn cymhariaeth â 6,417 o siaradwyr (neu 9.5%) yn 2001.[2]

Gefeilldref[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Acen Mewn Print (rhifyn Eisteddfod 2010), tud. 14
  2. "Siaradwyr Cymraeg fesul awdurdod lleol a grwpiau oedran ehangach, Cyfrifiad 2001 a 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-29. Cyrchwyd 2013-02-09.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]