Tredegar

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tredegar
Tredegar Town clock.jpg
Math Tref, Cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth 15,103 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Blaenau Gwent Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.7776°N 3.2407°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000758 Edit this on Wikidata
Cod OS SO145095 Edit this on Wikidata
Cod post NP22 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Alun Davies (Llafur)
AS/au Nick Smith (Llafur)
Am leoedd eraill yn dwyn yr enw, gweler Tredegar (gwahaniaethu)

Tref yn Nyffryn Sirhywi, Blaenau Gwent, yw Tredegar. Mae Caerdydd 33.2 km i ffwrdd o Tredegar ac mae Llundain yn 218.7 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 27 km i ffwrdd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Alun Davies (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Nick Smith (Llafur).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi'i leoli o fewn ffiniau hanesyddol yr hen Sir Fynwy, fe ddaeth yn ganolfan gynnar y Chwyldro Diwydiannol yn Ne Cymru. Ym 1778, adeiladwyd ffwrnais haearn yn Sirhywi gan Thomas Atkinson a William Barrow a ddaeth i'r ardal o Lundain.[3] Roedd angen tanwydd ar gyfer y ffwrnais, felly cyflogwyd dynion i gloddio glo ym Mryn Bach a Nant-y-bwch. Dyma'r mwyngloddio cyntaf, ar raddfa fach, yn yr ardal.

Methodd y ffwrnais yn 1794. Yn 1797, adeiladodd Samuel Homfray, gyda'i bartneriaid Richard Fothergill a Monkhouse Matthew, ffwrnais newydd, gan brydlesu'r tir o Stâd Tredegar yng Nghasnewydd.[4] Creodd hyn Waith Haearn Sirhywi a oedd yn y pendraw i ddod yn Waith Haearn Tredegar, a enwyd er anrhydedd Ystâd Tŷ Tredegar yn Nhredegar a Pharc Tredegar yng Nghasnewydd yn ne'r sir. Mae Adrian Vaughn, yn ei lyfr Grub, Dŵr a Relief (1985) yn crybwyll mai yn 1832 y cymerodd John Gooch swydd reolwr yng ngweithfeydd haearn Tredegar.

Bu sawl o epidemig colera yn y dref yn ystod y 19g a chrëwyd mynwent benodedig ar gyfer y rhai a fu farw o golera yng Nghefn Golau.[5]

Pensaernïaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Tŷ Bedwellty[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Tŷ Bedwellty a'i ardd yn adeilad rhestredig Gradd 2. Yn wreiddiol, roedd yr adeilad yn "fwthyn to gwellt isel", ac fe gafodd yr hen dŷ ei adnewyddu ym 1809. Fe adeiladwyd yr adeilad presennol ym 1818 fel tŷ i Samuel Homfray, a oedd yn brif gyflogwr yr ardal am y rhan fwyaf o'r 19g, trwy ei weithiau glo a haearn.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Tredegar (pob oed) (15,103)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tredegar) (1,212)
  
8.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tredegar) (13855)
  
91.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Tredegar) (3,137)
  
46.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cloc y Dref[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o brif nodweddion Tredegar yw Cloc y Dref, sydd yn dominyddu ochr ddeheuol canol y dref. Syniad Mrs. R P Davies, gwraig rheolwr Gwaith Haearn Tredegar, oedd cyflwyno "cloc oleuedig aruchel". Ei phenderfyniad hi oedd i adeiladu'r cloc yng nghylch canol y dref.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwybodaeth eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 468 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 441 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 392 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 8.8% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "A look at Old Tredegar in photographs" Volume 1 Philip Prosser Old Bakehouse Publications 1990
  4. B. Gardner's History of Tredegar and other information
  5.  Blaenau Gwent County Borough Council: Cefn Golau Cholera Cemetery.
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
  10. The Changing Face of Wales - Welsh Speakers

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]