Aneurin Bevan

Oddi ar Wicipedia
Aneurin Bevan
Ganwyd15 Tachwedd 1897 Edit this on Wikidata
Tredegar, Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw6 Gorffennaf 1960 Edit this on Wikidata
Asheridge Farmhouse Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Y Coleg Llafur Canolog Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, undebwr llafur Edit this on Wikidata
SwyddDeputy Leader of the Labour Party, Secretary of State for Employment, Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid, Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
PriodJennie Lee Edit this on Wikidata

Cymro a gwleidydd Llafur oedd Aneurin 'Nye' Bevan (15 Tachwedd 1897 - 6 Gorffennaf 1960). Bu'n aelod seneddol dros y Blaid Lafur, yn etholaeth Glynebwy o 1929 tan 1960. Roedd yn arwr i'r chwith gwleidyddol, yn arbennig am ei weithgarwch yn sefydlu y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Roedd yn areithiwr huawdl iawn er fod ganddo atal dweud pan yn ifanc. Fe ddaeth yn gyntaf mewn arolwg o arwyr Cymru.

Ieuenctid[golygu | golygu cod]

Ganwyd Bevan yn Nhredregar yn fab i lowr a Bedyddiwr, David Bowen. Roedd ei fam yn Fethodist. Yn un o ddeg o blant ni chafodd fawr o lwyddiant yn yr ysgol. Yn dair ar ddeg oed aeth i weithio yn y pwll glo lleol. Rhyddfrydwr oedd ei dad pan yn ifanc ond yn ddiweddarach ymunodd â'r Blaid Lafur Annibynnol.

Llywodraeth[golygu | golygu cod]

Aneurin Bevan yng Nghorwen, 1952

Roedd etholiad cyffredinol 1945 yn llwyddiant ysgybol i'r Blaid Lafur, gan eu galluogi i greu diwygiad cymdeithasol. Clement Attlee oedd y Prif Weinidog newydd, ac fe apwyntiodd Aneurin Bevan yn Gweinidog Iechyd. Fe'i heriwyd i greu Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a arianwyd gan drethi, er mwyn darparu gwasanaeth safonol i'r boblogaeth am ddim. Daeth y Gwasanaeth i fodolaeth ar y 5 Gorffennaf, 1948. Fe wladolwyd 2,688 o ysbytai yng Nghymru a Lloegr, a daethant dan orychwyliaeth Bevan. Ar yr un pryd, roedd yn gyfrifol am dai - a oedd yn bwnc problemus yn sgil dinistr yr Ail Ryfel Byd.

Yn 1951, fe'i ostyngwyd i fod yn Weinidog Llafur, ond yn fuan iawn fe ymddiswyddodd mewn safiad yn erbyn cyflwyniad taliadau presgripsiwn ar gyfer dentyddiaeth a sbectol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Evan Davies
Aelod Seneddol dros Lyn Ebwy
19291960
Olynydd:
Michael Foot
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Henry Willink
Gweinidog Iechyd
3 Awst 194517 Ionawr 1951
Olynydd:
Hilary Marquand