Afon Sirhywi
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.6681°N 3.1781°W |
| Aber | Afon Ebwy |
![]() | |
Mae Afon Sirhywi yn afon yn ne Cymru sy'n llifo i mewn i Afon Ebwy.
Ceir tarddiad Afon Sirhywi ar lethrau Cefn Pyllau-duon uwchlaw Tredegar. Wedi llifo trwy Lyn Siôn Sieffre mae'n llifo tua'r de trwy dref Tredegar ac yna Coed Duon a Pontllanfraith. Mae'n troi i'r dwyrain gerllaw Cwmfelinfach ac yn llifo i Afon Ebwy ger Crosskeys.
Mae'r hen lofeydd a mwyngloddiau metalau yn Nyffryn Sirhywi yn achosi cryn dipyn o lygredd yn nŵr yr afon.

