Ysbyty Gwynedd
Gwedd
| Math | ysbyty |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd, Penrhosgarnedd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.21°N 4.16°W |
| Rheolir gan | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
![]() | |
Ysbyty cyffredinol mwyaf Gwynedd, ar safle ym Mhenrhosgarnedd rhwng yr A55 a dinas Bangor, ydy Ysbyty Gwynedd. Dyma bencadlys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n un o ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru. Mae talgylch yr ysbyty yn cynnwys y rhan fwyaf o Wynedd ei hun, Ynys Môn, a rhannau o sir Conwy (cleifion Ysbyty Cyffredinol Llandudno a Bryn y Neuadd).
Ceir dros 550 gwely yn yr ysbyty sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau meddygol dwys a llawfeddygol, yn cynnwys uned damwain fawr, gofal dwys, gofal calon, ac adrannau seiciatreg, mamolaeth a gofal babanod arbenigol. Yma hefyd y ceir prif ganolfan meddyginiaeth yr ardal.
