Streic y Glowyr (1984–85)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Un o'r streiciau pwysicaf yn hanes diwydiant glo Prydain oedd Streic y Glowyr (1984–5), streic a alwyd gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr (yr NUM) dan Arthur Scargill, i wrthwynebu cynlluniau'r llywodraeth Geidwadol dan Margaret Thatcher i gau nifer sylweddol o byllau glo. Roedd y Bwrdd Glo dan Ian McGregor yn bwriadu cau 20 o byllau a diswyddo 20,000 o lowyr.

Roedd y gefnogaeth i'r streic yn amrywio o ardal i ardal. Roedd y gefnogaeth yn gryf iawn ym Maes glo De Cymru, lle roedd dros 99% o'r gweithlu yn cefnogi'r streic ar y cychwyn, ond yn llawer is ym Maes glo Gogledd Ddwyrain Cymru, lle roedd tua 35% o'r gweithlu ar streic.

Dechreuodd y streic ym mis Mawrth 1984, a daeth i ben ar 3 Mawrth 1985, pan orfodwyd y glowyr i ddychwelyd i'r gwaith.

Cysylltiad allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar streic am flwyddyn (o BBC Cymru)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Hywel Francis, History on Our Side: Wales and the 1984-85 Miners' Strike (Caerfyrddin: Iconau Ltd, 2009) ISBN 9781905762453