Bwrdd Glo Cenedlaethol
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Bwrdd Glo)
| Enghraifft o: | sefydliad |
|---|---|
| Daeth i ben | 1987 |
| Dechrau/Sefydlu | 1946 |
| Rhagflaenwyd gan | Bolsover Colliery Company |
| Rhagflaenydd | Blainscough Colliery Company, Shipley Collieries |
| Dynodwyr | |
Corfforaeth a grewyd i weinyddu diwydiant glo y Deyrnas Unedig oedd y Bwrdd Glo Cenedlaethol (Saesneg: National Coal Board, NCB). Fe'i sefydlewyd o ganlyniad i genedlaetholi'r diwydiant glo dan Ddeddf Cenedlaetholi'r Diwydiant Glo, 1946, a dechreuodd ar ei waith ar 1 Ionawr 1947.
Yn dilyn methiant Streic y Glowyr (1984-5), caewyd llawer o byllau glo. Ail-enwyd y Bwrdd yn Gorfforaeth Lo Brydeinig (British Coal Corporation) yn 1987, ac yn 1994 prefateiddiwyd asedau'r gorfforaeth, a throsglwyddwyd ei swyddogaethau gweinyddol i'r Awdurdod Glo newydd.