Arthur Scargill
Gwedd
| Arthur Scargill | |
|---|---|
| Ganwyd | 11 Ionawr 1938 Worsbrough |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Galwedigaeth | gwleidydd, undebwr llafur |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
| Priod | Anne Harper |
Arthur Scargill (ganed 11 Ionawr 1938) oedd llywydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) o 1981 hyd 2000. Ef oedd arweinydd y glowyr yn ystod Streic y Glowyr yn 1984-1985.
Ganed ef yn Worsbrough Dale, ger Barnsley, Swydd Efrog. Roedd ei dad y lowr ac yn aelod o Blaid Gomiwnyddol Prydain Fawr. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed, a mynd yn löwr ei hun. Daeth yr arweinydd adran Swydd Efrog o'r NUM yn 1973, cyn dod yn arweinydd cenedlaethol yn 1981.
Wedi methiant streic 1984-5, gadawodd Scargill y Blaid Lafur, ac yn 1996 sefydlodd y Blaid Lafur Sosialaidd. Ef yw arweinydd y blaid ar hyn o bryd.