Lewis Valentine

Oddi ar Wicipedia
Lewis Valentine
Lewis Valentine (tua 1936) ar glawr cofiant iddo.
Ganwyd1 Mehefin 1893 Edit this on Wikidata
Llanddulas Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mawrth 1986 Edit this on Wikidata
Llandrillo-yn-Rhos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaSaunders Lewis Edit this on Wikidata

Gweinidog o Fedyddwr, awdur ac ymgyrchydd dros heddwch a chenedlaetholwr oedd Lewis Edward Valentine (1 Mehefin 18935 Mawrth 1986). Roedd yn un o'r tri a losgodd rai o adeiladau byddin lloegr, a dedfrydwyd ef i 9 mis o garchar gan lys yr 'Old Bailey', Llundain.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganed Valentine mewn tŷ "Hillside" yn Stryd Clip Terfyn, Llanddulas, Sir Ddinbych, yn ail o saith o blant y chwarelwr Samuel Valentine (1854-1940), a oedd hefyd yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Bedyddwyr, a'i wraig Mary (née Roberts, 1865-1928). Roedd ganddo dri brawd: Richard, Idwal a Stanley, a thair chwaer: Hannah, Nel a Lilian. Bu ei fagwraeth yng nghapel Bethesda yn Llanddulas yn ddylanwad allweddol arno, a glynnodd at gymuned delfrydol y capel a'r pentref ar hyd ei oes.

Coleg a'r Rhyfel[golygu | golygu cod]

Mynychodd ysgol elfennol Llanddulas ac Ysgol Uwchradd Eirias, Bae Colwyn wedi hynny; dychwelodd i'w hen ysgol gynradd yn ddisgybl-athro am ddwy flynedd cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1913 i astudio ieithoedd Semitig o dan yr Athro Thomas Witton Davies a Chymraeg dan yr Athro John Morris-Jones. Dechreuodd bregethu flwyddyn cyn mynd i Fangor a rhoddodd ei fryd ar fynd yn weinidog.

Pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf bu raid iddo ymrestru fel cynorthwywr meddygol yn y fyddin, profiad a wnaeth lawer i'w osod ar lwybr heddychaeth a Chenedlaetholdeb Cymreig. Ymunodd gyda'r DOTC yn y coleg, ac yn Ionawr 1916 â'r Corfflu Meddygol (RAMC). Erbyn Medi 1916 roedd yn cynorthwyo'r clwyfedig ar y llinell flaen, ond anadlodd nwy gwenwynig ym Brwydr Passchendaele ar 23 Hydref 1917. Am gyfnod o tua thri mis roedd yn ddall ac yn fud a byddar; treuliodd y cyfnod hwn mewn ysbyty yn Lloegr ac yn ara deg, dychwelodd i stâd gymharol normal. Erbyn mis Mawrth 1918 roedd wedi gwella digon i'w symud i Felffast, ac roedd yn Blackpool erbyn diwedd y rhyfel. Cyhoeddodd ffrwyth ei ddyddiaduron manwl yn Seren Gomer rhwng 1969-72 dan y teitl "Dyddiadur Milwr". Bu i'w brofiadau yn y rhyfel ei droi'n genedlaetholwr ac yn heddychwr o argyhoeddiad dwfn.[1]

Dychwelodd i'r "Coleg ar y Bryn" yn Ionawr 1919 lle graddiodd gyda dosbarth cyntaf mewn ieithoedd Semitig ym Mehefin 1919, gan ennill MA ddwy flynedd yn ddiweddarach am draethawd ar gyfieithiadau William Morgan a Richard Parry o Lyfr Job. Fel gweinidog, treuliodd ran helaeth o'i weinidogaeth yn Llandudno.

Murlun i goffau Valentine ar wal Capel y Tabernacl, Stryd Mostyn, Llandudno

Priodi[golygu | golygu cod]

Eglwys y Tabernacl, Llandudno

Fe'i ordeiniwyd yn weinidog yng Nghapel y Tabernacl, Llandudno yn Ionawr 1921. Priododd Margaret Jones o Landudno ar 1 Hydref 1925, a ganwyd mab iddynt, Hedd yn 1926 a merch, Gweirrul yn 1932.

Fflam cenedlaetholdeb[golygu | golygu cod]

Roedd Valentine yn un o'r criw hynny a fynychodd cyfres o gyfarfodydd yng nghaffi'r Queen's yng Nghaernarfon yn 1924 a arweiniodd at sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru, 'Plaid Cymru' yn ddiweddarach. Lansiwyd y blaid newydd yn Eisteddfod Pwllheli yn Awst 1925 ac etholwyd Lewis Valentine yn Llywydd. Ef oedd ymgeisydd seneddol cyntaf y Blaid pan safodd dros etholaeth Sir Gaernarfon yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1929. Mae'r 609 o bleidleiswyr a'i cefnogodd yn yr etholiad hwnnw bellach yn rhan o chwedloniaeth Plaid Cymru. Bu'n Llywydd am flwyddyn tan yr ysgol haf ym Machynlleth, pan olynwyd ef gan Saunders Lewis, ond gwasanaethodd Valentine fel is-lywydd rhwng 1935 a 1938.

Y "Tân yn Llŷn"[golygu | golygu cod]

Yn 1936, cymerodd ran gyda Saunders Lewis a D. J. Williams mewn gweithred symbolaidd o losgi ysgol fomio ar dir hen blas Penyberth, ger Pwllheli yn Llŷn. Treuliodd naw mis yn y carchar am hynny. Yn yr achos unwyd ei genedlaetholdeb a'i heddychiaeth ac ysbrydolodd lawer o genedlaetholwyr dros y degawdau dilynol.

D J Williams, Lewis Valentine a Saunders Lewis

Ymladdodd Valentine ymgyrch ar ran y Blaid yn erbyn yr Ysgol Fomio cyn y weithred, a disgrifiodd hynny mewn ysgrif yn Y Ddraig Goch ym Mehefin 1936 dan y teitl "Bedydd tân y Blaid Genedlaethol". Yma, dywedodd mai bwriad y weithred o roi'r gwersyll ar dân oedd sicrhau cyhoeddusrwydd i achos y Blaid, a thraddododd Valentine a Saunders Lewis areithiau yn Llys y Goron Caernarfon yn Hydref 1936 a gyhoeddwyd yn bamffled gan y Blaid.[2] Nid oedd penderfyniad y rheithgor yn unfrydol y tro hwn felly symudwyd yr achos i lys yr Old Bailey yn Llundain yn Ionawr 1937 a dedfrydwyd y tri diffynnydd (a elwir yn "D.J., Saunders a Valentine") i naw mis o garchar yn Wormwood Scrubs; buont yno rhwng 20 Ionawr a 26 Awst 1937.

Ysgrifennodd Valentine am ei brofiadau yn y carchar yn yr ysgrifau "Beddau'r byw" (yn Y Ddraig Goch) rhwng Tachwedd 1937 a Chwefror 1939; yma gwelir fod ei gydymdeimlad â'i gyd-garcharorion yn amlwg, a gwel yr ochr ddigri i lawer o'r profiadau yn y carchar. Bu aelodau ei gapel yn gefnogol iawn iddo drwy'r helynt hwn, a chafodd groeso cynnes pan ddychwelodd i'r weinidogaeth wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar.

Y llenor[golygu | golygu cod]

Golygai Seren Gomer, cylchgrawn y Bedyddwyr, o 1951 hyd 1975. Cofnodai ei brofiad yn y Rhyfel Mawr yn y gyfrol Dyddiadur milwr, a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, yn 1988. Cyfansoddodd nifer o emynau gan gynnwys Gweddi dros Gymru (a genir i dôn Ffinlandia Sibelius).

Y Deyrnas[golygu | golygu cod]

Bu Valentine yn olygydd ar nifer o gylchgronau enwadol gan gynnwys Y Deyrnas. Mewn un erthygl yn Y Deyrnas, 'Y Bregeth Olaf', mae'n adrodd stori sy'n nodweddiadol o'i arddull, ei genedlaetholdeb, a'i gariad at y Gymraeg. Yn ei stori, mae'n dangos fel y mae'r Gymraeg yn dirywio ym mhentref dychmygol o'r enw Llanyllechwedd, "cyn i Saeson amharchus ei drosi yn Lanilecwith". Sonia am weinidog a fu yno ers 30 mlynedd a welai ddirywio moesau'r dref a ni hoffai'r Cymry Saisaddolgar o'i gwmpas. Disgrifia fel y bu i "a few words in English" droi'n "all the services in Bethesda Church be henceforth conducted in English". Cododd yr hen weinidog ar ei draed, "ei destun – ei lais yn eiddil a’r Beibl yn crynu yn ei law a dydwedodd: 'Lle ni byddo gweledigaeth, methu a wna y bobl.' A bu farw."[3]

Ei ohebiaeth gyda David Lloyd George[golygu | golygu cod]

Yn un o’r rhifynnau cawn hanes aelodau'r Tabernacl yn anfon protest ynglŷn â'r bwriad i godi'r ysgol fomio, at y llywodraeth ac yn anfon copi at Mr David Lloyd George. Yna anfonodd y Parch. Lewis Valentine apel bersonol at Lloyd George a dyma gyfieithiad o'r ateb Saesneg a dderbyniodd ar y 31ain Gorffennaf 1936 ac a ymddangosodd yn rhifyn Medi 1936 o'r Deyrnas:

F’ annwyl Mr Valentine, ‘Rwyf wedi cymryd amser maith i gysidro problem yr ysgol fomio yn Llŷn ac ‘rwyf wedi cael fy llethu gan y nifer o lythyrau ynglŷn â'r pwnc, ond oedais cyn anfon ateb hyd nes imi roi ystyriaeth ddwys i holl oblygiadau y broblem. ‘Rwyf wedi anfon llythyr i'r wasg i fynegi fy mhenderfyniad ynglŷn â'r mater. Rhoddais ystyriaeth i'r effaith allai gwersyll o'r fath ei gael ar gymdeithas heddychol fel yr un sydd ym Mhen Llŷn. Credaf mai'r unig ateb yw dileu bomio'n gyfangwbl. Ond, os oes raid cael ysgol fomio, yna mae'n well iddi fod mewn ardal wledig nag mewn ardal boblog. Gadewch i ni uno i gael terfyn ar ryfel o blith arswydau'r byd. Diolch i chi am eich sylwadau ynglŷn â fy Nghofiannau Rhyfel. Ysgrifennais mor blaen am fy mod eisiau dysgu'r genhedlaeth bresennol ac un y dyfodol beth yw gwir arwyddocad rhyfel.'

Ymateb Lewis Valentine oedd:

Nid wyf yn meddwl bod gofyn i mi ychwanegu dim, ond nid wyf yn credu bod Mr Lloyd George wedi deall ein gwrthwynebiad fel Cristnogion i'r peth hwn yn Llŷn. Ni pheryglir iaith a gwareiddiad Lloegr wrth blannu yno ysgol fomio, ond beth debygwch chwi fydd effaith plannu trefedigaeth Seisnig yn y darn Cymreiciaf o Gymru?

A beth fydd dylanwad y sefydliad ar don foesol yr ardal? Ond i ba beth yr ymhelaethwn — fe amgaewyd bamffled Saesneg yn Y Deyrnas beth amser yn ôl yn gosod y dadleuon yn erbyn yr ysgol.

Y mae'n wir ddrwg gennym mai fel hyn y gwel Mr D. Lloyd George. Ond angenrhaid a osodir arnom i ddal i ymladd yn erbyn y peth costied a gostio.

Gwasanaeth Coffa Lewis Valentine[golygu | golygu cod]

Clawr Gwasanaeth Coffa y Parchedig Lewis Valentine

Cynhaliwyd Gwasanaeth Coffa i'r Parchedig Lewis Valentine yn 'Y Tabernacl, Llandudno, ar bnawn Sadwrn, y 3ydd o Fai, 1986, o dan lywyddiaeth Y Parchedig Idwal Wyn Jones, y gweinidog bryd hynny. Canwyd dau o emynau Lewis Valentine: 'Maddau feiau'r bore gwridog' a 'Thros Gymru'n gwlad'. Cafwyd teyrngedau gan: Y Cynghorydd Owen Morris Roberts, Y Prifathro R. Tudur Jones, Dr. Gwynfor Evans a'r Parchedig M.J. Williams a chafwyd teyrnged ar gân gan Dafydd Iwan. Cyflwynwyd y diolchiadau gan Ieuan Wyn Jones.

Cofeb Lewis Valentine[golygu | golygu cod]

Bellach, mae cofeb i'r Parchedig Lewis Valentine wedi ei gosod yn ei bentref genedigol, Llanddulas.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Lewis Valentine, Dyddiadur Milwr (1988)
  • John Emyr (gol.), Lewis Valentine yn cofio (Gwasg Gee, Dinbych, 1983). Transgript sgwrs rhwng Valentine a John Emyr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd rhannau helaeth o'r erthygl yma gan Gareth Pritchard mewn nifer o gylchgronau gan gynnwys Y Pentan, Y Cymro a'r Herald Cymraeg (Daily Post).

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; awdur: Dafydd Johnston; adawlyd 10 Medi 2016.
  2. Paham y Llosgasom yr Ysgol Fomio gan Saunders Lewis a Lewis Valentine (1936) [1]
  3. Y stori lawn, a ysgrifennwyd ar gyfer Y Deyrnas, Cylchgrawn Bedyddwyr Llandudno gan Lewis Valentine ym mis Mawrth 1924 pan oedd yn Weinidog ar Eglwys y Tabernacl yn y dref. “Gobeithiaf, frodyr, eich bod wedi rhoddi ystyriaeth ddwys a gweddigar i’r mater hwn, ac mai yn eich bendithio ac nid eich melltithio y bydd eich plant a’ch wyrion.” Cyfarfod Eglwysig Blynyddol ydoedd yn "Bethesda", Lanilecwith a’r Parch. Emrys Owen yn llefaru. Tref â’i phoblogaeth oddeutu deunaw mil oedd Llanyllechwedd, canys dyna oedd ei henw cyn i Saeson amharchus ei drosi yn Lanilecwith. Bu Emrys Owen yn weinidog ynddi am bum mlynedd ar hugain. Nid oedd yn boblogaidd iawn yn y dref nac yn ei eglwys. Carai Gymru a’r Gymraeg a hen ddiwylliant y wlad yn rhy angerddol, ac ni fedrai yn ei fyw ddygymod â’r Saeson gormesol eu hysbryd na chwaith â’r Cymry Saisaddolgar oedd ynddi. Loes i’w ysbryd oedd gweld rhieni yn cynnwys eu plant i fod yn Saeson a phawb ar eu gorau glas yn sarnu ar draddodiadau coethaf y genedl. Llesgawyd ei ysbryd hefyd gan y dirywio amlwg ym moesau’r dref – peth sydd bob amser yn digwydd pan ddiystyro cenedl ei hiaith a’i hetifeddiaeth, a phan egyr ei drws led y pen i ddylanwadau estronol. Llethwyd ysbryd yr hen weinidog hefyd gan agwedd ei swyddogion crach-fonheddig yn erfyn arno roddi a few words in English ar bob pregeth, a hynny ar waethaf y ffaith fod amryw o addoldai Seisnig yn y dref. Diorseddwyd y Llyfr Emynau ers llawer dydd gan yr English Hymnal a chollwyd emynau gwin Pantycelyn ac Ann Griffiths o’r gwasanaeth. Yr oedd y Seiat druan, hithau, mewn bedd heb obaith atgyfodiad, a’r English Address and Social for Young People a gyhoeddid yn lle’r Cyfarfod Gweddi. Trowyd un gwasanaeth bob mis yn Sevice of Song, ac nid gwiw oedd sôn mwyach am y Cyfarfod Pregethu Blynyddol – rhaid oedd cadw Annual Bazaar and American Tea ar ddyddiau cysegredig yr uchel wyl gyfarfod. Pan wahaniaeth oedd fod i’r eglwys orffennol gwych a thraddodiadau disglair? Pa wahaniaeth oedd o fod dynion fel Gruffudd Owen a Morris Rhisiart a Gwenno Dafis wedi dioddef cystudd a charchar a merthyrdod er mwyn sefydlu’r eglwys a chael rhyddid i bregethu a gwrando’r Efengyl yn eu hiaith eu hunain? Pa wahaniaeth oedd o mai gwerinwyr tlodion o Gymry eirias oedd wedi rhoddi eu ceiniogau prin i adeiladu’r capel hardd presennol? Pa wahaniaeth oedd i’r bobl hyn am y gweddiau dwysion a’r profiadau hyfryd a gafwyd gan eu tadau yn y lle hwn? Rhaid oedd trosi y gwasanaeth yn Saesneg. Dacw Saisaddolwr pennaf y fro ar ei draed, Enos Davies, hen fasnachwr bach crebachlyd a’i holl fryd ar ddileu’r Gymraeg o’r gwasanaeth. Iddo ef “stickers in the mud” oedd pob Cymro a garai ac a fynnai siarad ei iaith. Cynnig yr oedd o “That all the services in Bethesda Church be henceforth conducted in English.” Eilwyd ef yn barod iawn gan Mr. Hughes Jones, y Compton, oedd wedi ei fagu ar aelwyd Gymraeg uniaith, ond bu yn Lloegr am dair blynedd, ac ni chlywyd ef, druan, yn yngan gair o Gymraeg wedi dychwelyd oddi yno. Yr oedd y ddeuddyn hyn wedi pacio’r Cyfarfod Eglwysig â gelynion anghymodlon y Gymraeg, dynion na welwyd erioed mohonynt mewn Cwrdd Eglwys o’r blaen. Nid oedd neb o du y gweinidog ond rhyw hanner dwsin o werinwyr a fagwyd ym mherfedd y wlad, ond heb golli eu cariad at hen fywyd gwerinol annwyl y Cymro gynt. Bu dadlau brwd – caed geiriau celyd a dangoswyd ysbryd annheilwng iawn o ysbryd y Gwr oedd ganwaith wedi arddel mawl y tadau yn y Gymraeg persain. Wfftiwyd dagarau a rhybudd yr hen weinidog a phasiwyd y penderfyniad gyda brwdfrydedd a mwyafrif mawr iawn a phendefynwyd ei roddi mewn grym y Sul cyntaf o’r mis dilynol. Sul olaf mis Chwefror ydoedd - y Sul olaf i’r Gymraeg yn eglwys Bethesda, Lanilecwith. Mae Enos Davies yn y sêt fawr â’i wyneb crebachlyd yn fwy crebachlyd nag erioed. Mae Hughes Jones, y Compton, yno yn rhwbio ei ddwylo gyda mwy o ynni nag erioed. Mae’n amlwg fod y ddau yn edifarhau dyfod ohonynt i’r oedfa. Edrychant yn bur anesmwyth yn ystod rhannau arweiniol y gwasanaeth. Cyfyd Emrys Owen ei destun – ei lais yn eiddil a’r Beibl yn crynu yn ei law: “Lle ni byddo gweledigaeth, methu a wna y bobl.” Distawrwydd mud – disgyn y dagrau yn gyflym a phoethion ar y Llyfr na agorir mohono byth mwy ym Methesda – dacw gorff lluniaidd yr hen weinidog yn siglo – syrth yn drwm ar lawr y pulpud. Rhuthra rhai o’r blaenoriaid ato a chlywir ef yn sibrwd gyda’i anadl olaf: “Lle ni byddo gweledigaeth, methu a wna y bobl.” Galwyd ar feddyg o’r gynulleidfa, ond yr oedd y Parch Emrys Owen wedi marw.