Owen Morris Roberts

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Owen Morris Roberts
OM Roberts.jpg
Owen Morris Roberts yn ystod ei amser yn Brifathro Ysgol Maelgwn
Ganwyd 28 Mawrth 1906 Edit this on Wikidata
Llanddeiniolen Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Chwefror 1999 Edit this on Wikidata (92 oed)
Dinasyddiaeth Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth athro, pennaeth, cynghorydd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Cymru Edit this on Wikidata

Roedd O M Roberts (28 Mawrth 190625 Chwefror 1999) yn athro, un o sylfaenwyr Plaid Cymru ac un a chwaraeodd ran, wrth gefn, yn achos Tân yn Llŷn.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd "OM" yn Llanddeiniolen yn bedwerydd plentyn ac unig fab i John Jeffrey Roberts, chwarelwr, ac Elizabeth (née Morris) ei wraig.[2] Pan oedd yn wyth mlwydd oed symudodd y teulu o Landdeiniolen i ymgartrefu yn Llanrug.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol yr Eglwys, Glanmoelyn, Llanrug; Ysgol Sir Brynrefail; Ysgol Ramadeg Caernarfon a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor lle graddiodd gyda gradd BSc ym 1928 a chymhwyster athro ym 1929.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi cymhwyso fel athro symudodd OM i Lundain i weithio fel athro gwyddoniaeth mewn ysgolion, yn  Bethnal Green, Bow a Bromley cyn derbyn swydd barhaol yn Ysgol Oldfield Road, Stoke Newington. Ym 1930 dychwelodd i Gymru fel athro mathemateg a gwyddoniaeth yn Ysgol y Cefnfaes, Bethesda sef ysgol Eilradd Modern oedd yn darparu addysg i blant a oedd wedi methu arholiad yr 11+ a'r cyfle i fynychu ysgol ramadeg. Ym 1930 symudodd i Ysgol Eilradd Modern Trinity Avenue Llandudno.[2]

Gan fod ganddo radd mewn gwyddoniaeth a bod y wladwriaeth am gadw gwyddonwyr yn ddiogel, esgusodwyd OM rhag gwasanaeth milwrol gorfodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd; ond cafodd ei symud i swydd Prifathro dros dro ar Ysgol Gynradd Deganwy ym 1943 yn lle'r Prifathro oedd wedi ymrestru â'r llu awyr.

Llun Staff olaf O M Roberts a dynnwyd yng Ngorffennaf, 1966. Yn y cefn: Gareth Pritchard, Anwen Hughes, Mair Evans, Pegi Owen, Nesta Hughes a Gwilym Parry. Y rhes flaen: Gwyn Pierce, Nellie Pierce, O.M. Roberts, Tom Ross Williams a Mary James

Wedi i'r cyn brifathro ddychwelyd o'r Rhyfel ym 1945 penderfynodd OM i barhau yn y sector gynradd a chael ei benodi'n brifathro ar Ysgol Maelgwn, Cyffordd Llandudno gan aros yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad ym 1966. Roedd Ysgol Maelgwn, ar y pryd, yn ysgol a oedd yn dysgu yn bennaf trwy gyfrwng y Saesneg er bod carfan gref o ddisgyblion yno o gartrefi Cymraeg, rhannodd OM yr Ysgol yn ddwy ffrwd y naill yn dysgu'n bennaf drwy'r Gymraeg a'r llall yn bennaf trwy'r Saesneg, trefn bu'n parhau yn yr ysgol hyd ei gau yn 2017.[2][3]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar gychwyn ei gyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor ymunodd OM a'r Gymdeithas Genedlaethol Gymreig, cymdeithas o fyfyrwyr a oedd yn cefnogi ymreolaeth i Gymru ac un o'r grwpiau a daeth ynghyd ym Mhwllheli ym 1925 i drafod ffurfio Plaid Genedlaethol Cymru; ymunodd OM a'r Blaid ym 1926, gan ddod yn Gadeirydd cyntaf Cangen y Brifysgol o'r Blaid ac yn gynrychiolydd y gangen ar Bwyllgor Sir Gaernarfon ar gyfer trefnu ymgyrch Lewis Valentine fel ymgeisydd y Blaid yn Etholiad Cyffredinol 1929.

Lewis Valentine

Yn ei hunangofiant Oddeutu'r Tân, a gyhoeddwyd ym 1994 datgelodd OM mai ef, J. E. Jones, Victor Hampson Jones a Robin Richards oedd yn cynorthwyo D. J. Williams, Lewis Valentine, a Saunders Lewis yn y weithred o losgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, ffermdy hynafol ger Penrhos, Pwllheli, ar 8 Medi 1936. Penderfynwyd mai dim ond y tri gŵr amlwg oedd i gymryd y cyfrifoldeb am y weithred; wedi gosod y deunydd cynnau'r tan, rhoddwyd 20ain munud i'r gwŷr iau ffoi o'r safle cyn cynnau'r fflam.[4]

Gwasanaethodd fel is-Lywydd Plaid Cymru o  1947 i 1950 ac fel Cadeirydd etholaeth Conwy o'r Blaid o 1945 hyd ei farwolaeth.

Ym 1952 etholwyd OM i Gyngor Cymuned Bwrdeistref Conwy (Cymuned sy'n cynnwys Deganwy a Chyffordd Llandudno), gan wasanaethu fel Maer y Fwrdeistref ym 1959; bu'n aelod o'r Cyngor hyd 1967. Ym 1967 cafodd ei ethol fel Cynghorydd Henryd a'r Ro-wen ar Gyngor Sir Gaernarfon, gan wasanaethu hyd diddymu'r Cyngor ym 1974 pan gafodd ei ethol yn aelod o Gyngor Sir Gwynedd a bu'n gadeirydd y cyngor ym 1985-6. Ymddeolodd o Gyngor Gwynedd ym 1989. Er ei fod yn aelod blaenllaw o Blaid Cymru, fel ymgeisydd annibynnol y safodd ym mhob etholiad.[1]

O M Roberts oedd un o'r rhai olaf i groesi Pont Grog Telford, a hynny mewn trol a cheffyl!

Tra roedd yn Faer Cyngor Bwrdeistref Conwy agorwyd y bont newydd drod Afon Conwy oedd yn cymryd lle yr hen bont grog yn 1958.

O M yn agoriad swyddogol y bont newydd gyda Henry Brooke

Cafodd y fraint o fod yr olaf i deithio dros yr hen bont a hynny mewn car a cheffyl! Y diwrnod wedyn roedd yn cymryd rhan gyda Henry Brooke, Gweinidog Materion Cymreig yn y Senedd, yn yr agoriad swyddogol

Bywyd cyhoeddus[golygu | golygu cod y dudalen]

Er bod ffrwd Cymraeg llwyddiannus yn Ysgol Maelgwn ac Ysgol Gynradd Gymraeg yn Llandudno a bod nifer o ysgolion pentrefi oddi ar yr arfordir yn rhai naturiol Cymraeg teimlwyd gan lawer nad oedd darpariaeth Cymraeg digonol yn y sector uwchradd. Er bod Ysgol Aberconwy, Conwy ac Ysgol John Bright, Llandudno yn swyddogol yn rhai dwyieithog roedd niferoedd y disgyblion di-Gymraeg a fynychai'r ysgolion yn eu gwneud yn ymarferol Saesneg; bu galw gan hynny gan rieni, Cymdeithas yr Iaith (Cell Bangor) a chefnogwyr eraill addysg Gymraeg am ysgol Gymraeg benodedig yn ardal Llandudno; OM oedd un o'r rhai mwyaf blaenllaw o gefnogwyr achos Ysgol Cymraeg[5].

Roedd nifer o gynghorwyr Sir Gaernarfon ac wedyn Gwynedd yn gwrthwynebu’r syniad, gan fynnu nad oedd digon o ddarpar ddisgyblion i gyfiawnhau ysgol Gymraeg penodedig, ac eraill yn poeni y byddai cydnabod yr angen am ysgol benodedig Cymraeg yn glastwreiddio polisi Gwynedd bod pob ysgol yn y sir yn naturiol ddwyieithog. Cafwyd ymwared o'r pryderon pan ddanfonwyd llythyr gan Gyfarwyddwr Addysg Clwyd i Gyfarwyddwr Addysg Gwynedd yn awgrymu agor ysgol ar y cyd yn agos i ffin y ddwy sir. Ym 1981 fe agorodd OM Roberts yr ysgol newydd, Ysgol y Creuddyn a bu'n gwasanaethu fel cadeirydd bwrdd rheolwyr yr ysgol am ei wyth mlynedd gyntaf.[2] Rhwng 1981 a 1984 tra roedd yr ysgol newydd yn cael ei adeiladu roedd yn anodd i'r staff a'r disgyblion gan nad oedd labordai nag chyfleusterau ar gyfer ymarfer corff; agorwyd yr ysgol newydd ym 1984, eto, gan O M Roberts. Cynigir Gwobr Goffa O M Roberts yn flynyddol gan Ysgol y Creuddyn am gyfraniad i Gymreictod yr Ysgol a'r Gymuned[6]

Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch ar Fainc Ynadon Llandudno a bu'n Gadeirydd y Fainc am nifer o flynyddoedd.

Bu'n ysgrifennydd y Pwyllgor Drama ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1947 ac yn gadeirydd y pwyllgor yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno 1963 a Chadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1989.Fe fu wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn un cofiadwy i O. M. Roberts, Coed y Waun, Llanbedr y Cennin. Nid yn unig ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a Llywydd y Dydd ar y Sadwrn, ond hefyd fe ddathlodd hanner can mlynedd o fywyd priodasol ar y 12fed o Awst — diwrnod olaf yr eisteddfod. Priodwyd ef a Mrs Eluned Roberts ar 12fed o Awst 1939 —amser Eisteddfod Dinbych yng Nghapel Waunfawr, ger Caernarfon.

Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Llandudno 1963 gydag O M Roberts y pumed o'r dde yn yr ail res
O M Roberts ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod ac yn dathlu ei Briodas Aur

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 The Independent 2 Ebrill 1999 Obituary: O. M. Roberts [1] adalwyd 5 Awst 2015
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Roberts, OM; Oddeutu'r Tân, Cyfres y Cewri cyf 12, Gwasg Gwynedd, Caernarfon, 1994. ISBN 0 86074 103 6
  3. History Points [2] adalwyd 6 Awst 2015
  4. Arwel Vittle Cythral o Dân - Cofio 75 Mlynedd Ers Llosgi'r Ysgol Fomio, Gwasg y Lolfa, 2011 ISBN 1 84771 3920
  5. Iolo Wyn Williams, Our Children's Language: The Welsh-medium Schools of Wales 1939-2000, Y Lolfa, ISBN 0 86243 704 0
  6. YouTube Ffilm gan Ysgol y Creuddyn Cyflwyniad i Gwobrau Ellen Kent ag O.M. Roberts [3] adalwyd 6 Awst 2015