Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1925

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1925
Enghraifft o:un o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1925 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadPwllheli Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1925 ym Mhwllheli, Sir Gaernarfon (Gwynedd bellach).

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Cantre'r Gwaelod "Calypso" Dewi Morgan
Y Goron Bro fy Mebyd - William Evans (Wil Ifan)

Enillydd y wobr am y casgliad gorau o hen faledi a cherddi unrhyw ardal yng Nghymru oedd Richard Griffith (Carneddog).

"Ni bu'r tywydd mor ffafriol ag y gellid disgwyl. Gwnaeth gawodydd trymion o law dydd Llun, ond cafwyd tywydd mwy ffafriol dydd Mawrth. Yr oedd yn sychach o gryn dipyn dydd Mercher, a dydd Iau cafwydd tywydd hafaidd, a chyrhaeddodd y Brifwyl ei huchafbwynt o ran cynulliad. Amcangyfrifwyd fod o leiaf "deuddeng mil" yn bresennol pan gadeirwyd yr awdlwr gorau. Bu'r cyngherddau yn llwyddiannus iawn hefyd, a gellir priodoli hynny i weithgarwch y Pwyllgor."[1]

Pennillion cyfarch gan Caerwyn ar y Dydd Llun[1] :

"Croeso, medd awen, yn llawen i Llŷn,

Croeso, medd heulwen, a'r hwyl ar ddihun;

A gwynt a gwylanod a thonnau y môr

Yng nghroeso'r Eisteddfod ymunant yn gôr.


Croeso, medd Ardal y Cewri yn glir,

A'u hysbryd di-atal yn crwydro y tir;

Dros fôr a thros fynydd daw lleisiau cytun

Gan ddatgan llawenydd am Orsedd yn Llŷn.


Yn Enlli y seintiau a gysgant yn drwm

Ond deffry awenau ar lethrau a chwm;

Deheubarth a Gwynedd a Phowys yn un

Yn rhwymyn tangnefedd a welir yn Llŷn."

"Yr oedd y glaw yn parhau i ddisgyn yn drwm ar do sinc y Babell ac yn rhwystr i'r miloedd oedd ymhell oddiwrth y llwyfan glywed yn iawn. [...] Yr oedd y cwbl yn cael ei ledanu drwy'r diwifr."[1]

Cystadlaethau Perfformio Dramâu

[golygu | golygu cod]

Y Ddrama Hir

Cyflwynwyd 25 cwmni i gystadlu ar berfformio Drama Hir yn yr Eisteddfod.[2] Beirniaid T. O. Jones (Gwynfor), Dan Matthews a'r Parch Tegla Davies. [1]

Dewiswyd Cwmni Cymrodorion Aberdâr a Cwmni Maerdy i gystadlu yn yr Ŵyl. Cwmni Maerdy oedd yn fuddugol.[1]

Y Ddrama Fer

Cyflwynwyd 21 cwmni i gystadlu ar y ddrama fer yn ogystal:

  • Cwmnïau Dramayddol Berch, Aber-erch - Ym Magl yr Heliwr
  • Cwmni Capel Isaf, Aber-erch - John James o Llundain
  • Cwmni Twrgwyn, Bangor - Dwywaith yn Blentyn
  • Cwmni Ystradau, Ffestiniog - Noson o Farrug
  • Cwmni Barlwyd, Ffestiniog - Y Dieithryn
  • Cwmni Dwyryd, Ffestiniog - Ym Magl yr Heliwr
  • Cwmni Gweision y Rheilffordd L.M.S, Caernarfon - Y Merthyr
  • Cwmni Caernarfon - Y Darn Arian
  • Cwmni Gwaelod-y-garth, Caerdydd - Dwywaith yn Blentyn
  • Cwmni Mynydd Du, Llandderfel - Y Pwyllgor
  • Cwmni Tabernacl Cymreig King's Cross, Llundain - Y Dieithryn
  • Cwmni Tan y Capel, Llanerch-y-medd - Coron y Bardd
  • Cwmni Athen, Llanerch-y-medd - Yr Unig Fab
  • Cwmni Maerdy - Y Pwyllgor
  • Cwmni Gwernydd, Pontardawe - Cadw Noswyl
  • Cwmni Mount Elim, Pontardawe - Gwraig o Wlad Us
  • Cwmni Tudweiliog - Tewach Gwaed na Dŵr
  • Cwmni Tudweiliog - Malan Puw a'i Hamser
  • Cwmni Cadwgan, Treorci - Ffrois
  • Cwmni Orchwy, Treorci - Dialydd
  • Cwmni Gwalia, Treorci - Diethryn

Rhanwyd y wobr gyntaf (15c) a'r ail wobr (5c) rhwng Cwmni Cadwgan, Treorci a Cwmni Caernarfon. Daeth Cwmni King's Cross yn ail, Cwmni Penmaenmawr yn drydedd a Chwmniau Cefnddwysarn a Gwalia, Treorci yn gydradd bedwerydd.[1]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 "Cystadleuaeth y Ddrama". Yr Herald Cymraeg. 11 Awst 1925.
  2. "Eisteddfod Pwllheli". Herald Cymraeg. 13 Ionawr 1925.