Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007 ar safle Pentrehobyn ar gyrion yr Wyddgrug, Sir y Fflint rhwng 4 a 11 Awst 2007.
Hon oedd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf i'w chyllido yn rhannol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dan drefniant newydd yn hytrach na bod yr Eisteddfod yn disgwyl cyfraniad sylweddol gan y Cyngor Sir lleol. Mae'n debyg i 154,944 o bobl ymweld a'r Eisteddfod hon o gymharu âg 155,437 yn Abertawe y llynedd, ac fe wnaeth yr eisteddfod elw, er gwaethaf y gofid ychydig cyn yr eisteddfod y byddai y tywydd drwg gafwyd yn golygu colled. Fe wnaethpwyd ar un adeg ystyried gohirio'r Eisteddfod oherwydd cyflwr y cae.
Derbyniodd yr Eisteddfod Genedlaethol gais swyddogol oddi wrth Gyngor Dinas Lerpwl i gynnal eisteddfod 2007 yn y ddinas.[1] Roedd hyn yn bennaf oherwydd mai Lerpwl yw Dinas Diwylliant Ewrop yn 2008.[2][3] Profodd y syniad o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol y tu allan i Gymru am y tro cyntaf ers 1929 (hefyd yn Lerpwl) yn ddadleuol iawn, gydag anghytuno o fewn cymdeithasau Cymry Cymraeg Lerpwl yn ogystal ag o fewn Cymru.[4][5][6][7]
Cynnwys
Prif Gystadlaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Ffin | Un o Ddeuawd | T. James Jones |
Y Goron | copaon | Gwyn | Tudur Dylan Jones |
Y Fedal Ryddiaith | Rhodd Mam | Dol Bapur | Mary Annes Payne |
Gwobr Goffa Daniel Owen | Pryfeta | Chwilen | Tony Bianchi |
Tlws y Cerddor | Hunanbortread | Jelsam Wise | Wyn Pearson |
Y Goron[golygu | golygu cod y dudalen]
Doedd y beirniaid ddim yn unfrydol yn eu dyfarniad i goroni Tudur Dylan Jones gyda Gwyn Thomas yn anghytuno gyda Nesta Wyn Jones a Gerwyn Williams. Nesta Wyn Jones yn unig ddewisodd gerdd Tudur Dylan, gyda Gerwyn Williams yn rhoi ei awdl yn gydradd gydag un arall a Gwyn Thomas am gadeirio un arall eto.
Gwobr Goffa Daniel Owen[golygu | golygu cod y dudalen]
Enillwyd y wobr gan Tony Bianchi am ei nofel Pryfeta. Doedd y beirniaid ddim yn gytun: roedd Robat Arwyn ac Annes Glynn am wobrwyo Pryfeta ond Harri Pritchard Jones o blaid nofel arall. Roedd ef yn teimlo fod gormod o ddisgrifiadau manwl o bryfetach a drychfilod, ac hynny yn tarfu ar y stori.
Ffynonellau a chyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007, ISBN 978-1-84323-894-2
- ↑ Lerpwl yn gwahodd Steddfod ar wefan y BBC
- ↑ Dinas diwylliant: Caerdydd yn colli ar wefan y BBC
- ↑ Liverpool 08 Gwefan Swyddogol (Saesneg)
- ↑ Don't bring the eisteddfod here, say Liverpool Welsh ar wefan y Daily Post (Saesneg)
- ↑ Prifwyl: Lerpwl yn fwy tebygol ar wefan y BBC
- ↑ Lerpwl: Rhai'n erbyn yn 'gul' ar wefan y BBC
- ↑ 'Dim prifwyl i Lerpwl' ar wefan y BBC
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- 1967: Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Bala 1967
- 1997: Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwefan swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Cymru
- Wiki Eisteddfod 2007 Wiki answyddogol