Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caer 1866

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caer 1866 yng Nghaer ar 4-7 Medi 1866, o ddydd Mawrth i ddydd Gwener. Defnyddiwyd yr enw 'Caerlleon' yn ogystal a Caer mewn nifer o ysgrifau y cyfnod.[1]

Cynigiwyd Y Gadair am awdl ar y testun "Môr". Derbyniwyd 13 cyfansoddiad a traddodwyd y feirniadaeth gan Gwalchmai ar ran ei gyd-feirniad Gwrgant. Cyflwynwyd y gadair i 'Morydd' - y Parch Robert Thomas, gweinidog yr Annibynnwyr ym Mangor. Nid oedd y bardd buddugol yn bresennol felly fe arwisgwyd ei gynrychiolydd.[2] Gwnaed y gadair o goed derw a gafwyd yn adeiladwaith tŷ Twm o'r Nant.

Eto roedd beirniadaeth gan lawer am Seisnigeiddrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol a cynhaliodd y beirdd Eisteddfod brotest yng Nghastell-Nedd yn 1866, bythefnos ar ôl Eisteddfod Caer.[3] Ar yr un pryd, cafwyd ymosodiad cryf ar yr Eisteddfod a'r iaith Gymraeg gan ysgrif olygyddol yn The Times, Llundain. Ar y pryd nid oedd y papur newydd yn datgelu enwau awduron ond fe ganfuwyd yn ddiweddarach mai'r Parchedig Henry Wace oedd yr awdur (a ddaeth yn Deon Caergaint yn 1903).[4]

Flag of Wales 2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "TIPYN 0 HANES Y NORTH - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1866-09-28. http://hdl.handle.net/10107/3196991. Adalwyd 2016-08-16.
  2. "Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1866-09-08. http://hdl.handle.net/10107/4263903. Adalwyd 2016-08-16.
  3.  Maes Protest. BBC Cymru (29 Mawrth 2000). Adalwyd ar 16 Awst 2016.
  4.  Emrys Wynn Jones. Y ‘Taranwr’, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Llyfrau Gleision. Llyfrgell Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 16 Awst 2016.