Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013
| ← Blaenorol | Nesaf → | |
| Yr Orsedd yn paratoi i fynd i'r pafiliwn ar gyfer Seremoni'r Gadair (neb yn deilwng) | ||
| Lleoliad | Tir Fferm Kilford ar gyrion tref Dinbych | |
|---|---|---|
| Cynhaliwyd | 2 - 10 Awst 2013 | |
| Archdderwydd | Christine James | |
| Daliwr y cleddyf | Robin o Fôn | |
| Cadeirydd | John Glyn Jones | |
| Llywydd | Euryn Ogwen Williams | |
| Nifer yr ymwelwyr | 153,606 [1] | |
| Enillydd y Goron | Ifor ap Glyn | |
| Enillydd y Gadair | Neb yn deilwng | |
| Gwobr Daniel Owen | Bet Jones | |
| Gwobr Goffa David Ellis | Eleri Owen Edwards | |
| Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn | Elen Gwenllian | |
| Gwobr Goffa Osborne Roberts | Joshua Owain Mills | |
| Gwobr Richard Burton | Steffan Parry | |
| Y Fedal Ryddiaith | Jane Jones Owen | |
| Medal T.H. Parry-Williams | Dorothy Jones | |
| Medal/Tlws y Ddrama | Glesni Haf Jones | |
| Dysgwr y Flwyddyn | Martyn Croydon | |
| Tlws y Cerddor | Ieuan Wyn | |
| Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts | Joshua Mills | |
| Medal Aur am Gelfyddyd Gain | Josephine Sowden | |
| Medal Aur am Grefft a Dylunio | Theresa Nguyen | |
| Gwobr Ifor Davies | Iwan Bala | |
| Gwobr Dewis y Bobl | Theresa Nguyen | |
| Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc | Becca Voelcker | |
| Medal Aur mewn Pensaernïaeth | Penseiri John Pardey | |
| Ysgoloriaeth Pensaernïaeth | Joe Travers-Jones | |
| Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg | Alwyn R. Owens | |
| Gwefan | www.eisteddfod.org.uk | |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013 ar 2 - 10 Awst 2013 ger tref Dinbych.[2]
Roedd y Maes ar dir Fferm Kilford, ar yr union safle lle cynhaliwyd Eisteddfod Dinbych 2001.[3] (53°11′08″N 3°23′03″E / 53.185683°N 3.384051°E) Roedd y maes pebyll a'r carafanau ar yr un tir. Cynhaliwyd gigs Cymdeithas yr Iaith yng nghanol tref Dinbych, yn Neuadd y Dref a Thafarn y Gild.[4]
Prif Gystadlaethau
[golygu | golygu cod]| Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
|---|---|---|---|
| Y Gadair | Lleisiau | Atal y wobr | |
| Y Goron | Terfysg | "Rhywun Arall" | Ifor ap Glyn |
| Y Fedal Ryddiaith | Gwe o Glymau Sidan | "Sidan" | Jane Jones Owen |
| Gwobr Goffa Daniel Owen | Craciau | "Seiriol Wyn" | Bet Jones |
| Tlws y Cerddor | "Fi" | Ieuan Wyn[5] | |
| Y Fedal Ddrama | Dŵr Mawr Dyfn | Glesni Haf Jones |
Paratoi
[golygu | golygu cod]Targed y Gronfa Leol oedd £300,000 ac erbyn wythnos yr Eisteddfod, roedd y Gronfa wedi pasio £330,000.[6]
Cyngherddau'r Pafilwin
[golygu | golygu cod]Roedd y cyngerdd agoriadol yn deyrnged i gyfansoddwr lleol: Robat Arwyn ac ymhlith y perfformwyr roedd Rhys Meirion a Chôr Rhuthun. Ar y nos Sadwrn bu Côr yr Eisteddfod yn perfformio'r Meseia gan Handel a bu Elin Manahan Thomas, Gwyn Hughes Jones, Leah-Marian Jones a Gary Griffiths yn cymryd rhan gyda Nicholas Kraemer yn arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Noson Lawen oedd ar y nos Lun. Amrywiodd pris y tocynnau i'r cyngherddau fin nos rhwng £10 ac £19 yr oedolyn a'r pris i'r maes yn £18 i oedolyn.[7]
Y Lle Celf
[golygu | golygu cod]Thema'r Lle Celf oedd Ysbyty Meddwl Dinbych.
Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg
[golygu | golygu cod]Roedd oddeutu 40 o unedau gwahanol o fewn y pafiliwn, gyda "cansar" yn thema gyffredin gan nifer ohonyn nhw.
Tywydd
[golygu | golygu cod]Dyma’r pennawd a gafwyd ar un papur dyddiol poblogaidd yn y gogledd dydd Llun yr Eisteddfod yn Ninbych a’r Fro:
- Flash flood alert Eisteddfod visitors, commuters and tourists face week of fierce rainstorms
Do mi gafwyd fflach-lifogydd dros y penwythnos ond rhagolygon “swyddogol” da iawn ar gyfer gweddill wythnos Eisteddfod Dinbych a’r Fro. Ond doedd hynny ddim yn ddigon da i ohebydd y papur. Roedd ymwelwyr yr Eisteddfod eleni yn wynebu cenllifau a curlaw ffyrnig drwy’r wythnos meddai. Gan na ddigwyddodd hynny, gellir gofyn beth a gymhellodd y papur i ddarogan y fath dywydd a brofodd yn anghywir?
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Ninbych
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Torf barchus ar ddydd Sadwrn ola’ Eisteddfod Dinbych, Golwg360, 10 Awst 2013
- ↑ "Gwefan yr Eisteddfod". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-14. Cyrchwyd 2013-04-27.
- ↑ "Eisteddfod 2013: Yr hen a'r newydd". BBC Cymru Fyw. 2013-06-20. Cyrchwyd 2025-06-28.
- ↑ "Map of the Eisteddfod 2013 area in Denbighshire". BBC Cymru Fyw. 2013-07-26. Cyrchwyd 2025-06-28.
- ↑ "Ieuan Wyn yw Prif Gerddor yr ŵyl". BBC Cymru Fyw. 2013-08-07. Cyrchwyd 2025-06-28.
- ↑ Adroddiad Gwerthuso Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau Tachwedd 2013[dolen farw]
- ↑ Gwefan yr Eisteddfod Archifwyd 2013-06-27 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 23 Mehefin 2013
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Eisteddfod 2013 y BBC Archifwyd 2013-08-15 yn y Peiriant Wayback
- Llais y Maes Blog gan fyfyrwyr newyddiaduraeth o Brifysgol Caerdydd
