Medal y Cyfansoddwr
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Tlws Y Cerddor)
Cystadleuaeth gyfansoddi cerddoriaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yw Medal Y Cyfansoddwr (Tlws y Cerddor gynt).
Diwygiwyd y gystadleuaeth yn 2024. Cyflwynir y Fedal i’r cyfansoddwr mwyaf addawol ar gyfer cyfansoddiad i ensemble siambr.[1] Dewisir tri cerddor i weithio gyda mentor ac offerynnwyr i greu cyfansoddiadau newydd dros gyfnod o 7 mis. Bydd y gweithiau yn cael eu perfformio ar lwyfan y Pafiliwn cyn cyhoeddi'r ennillydd terfynol.[2] Y wobr yw'r fedal sy'n rhoddedig gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru a £750. Os yn briodol, ystyrir cyhoeddi’r gwaith gan Tŷ Cerdd.
Enillwyr Tlws y Cerddor
[golygu | golygu cod]- 1990 - Michael J Charnell-White
- 1991 - Pwyll ap Siôn
- 1992 - Atal y Wobr
- 1993 - Martin Davies
- 1994 - Bryn Jones
- 1995 - Guto Pryderi Puw
- 1996 - Atal y Wobr
- 1997 - Guto Pryderi Puw
- 1998 - Michael J Charnell-White
- 1999 - Ceiri Torjussen
- 2000 - John Marc Davies
- 2001 - Euron J Walters
- 2002 - Atal y Wobr
- 2003 - Owain Llwyd
- 2004 - Owain Llwyd
- 2005 - Christopher Painter
- 2006 - Euron J Walters
- 2007 - Wyn Pearson
- 2008 - Eilir Owen Griffiths
- 2009 - Atal y Wobr
- 2010 - Christopher Painter
- 2011 - Meirion Wynn Jones
- 2012 - Gareth Hughes
- 2013 - Ieuan Wyn
- 2014 - Sioned Eleri Roberts
- 2015 - Osian Huw Williams
- 2016 - Gareth Olubunmi Hughes
- 2017 - Atal y Wobr
- 2018 - Tim Heeley [3]
- 2019 - Atal y Wobr
- 2022 - Edward Rhys-Harry [4]
- 2023 - Lowri Mair Jones[5]
Enillwyr Medal y Cyfansoddwr
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Cyfansoddwyr rhestr fer | Manylion | Enillydd |
|---|---|---|---|
| 2024 | Lowri Mair Jones, Nathan James Dearden, Tomos Williams | Cydweithiwyd gyda'r cyfansoddwr John Rea a phedwarawd o Sinfonia Cymru | Nathan James Dearden[6] |
| 2025 | Sarah Lianne Lewis, Jonathan Guy, Owain Gruffydd Roberts | Thema "Cymru Fydd" - cydweithwyd gyda Pwyll ap Siôn a thri chwaraewr llinynnol : Simmy Singh (ffidil), David Shaw (ffidil/fiola) a Garwyn Linnell (sielo). Y beirnaid oedd Richard Baker, Lleuwen Steffan a Graeme Park | Sarah Lianne Lewis - "Cysgodion Bywiog"[7] |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Dathlu Tlws y Cyfansoddwr ar ei newydd wedd | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-10.
- ↑ "Tlws y Cyfansoddwr | Tŷ Cerdd │Welsh Music". tycerdd (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-10.
- ↑ Tim Heeley yn ennill Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod , BBC Cymru Fyw, 8 Awst 2018. Cyrchwyd ar 8 Awst 2017.
- ↑ Eisteddfod 2022: Edward Rhys-Harry yn ennill Tlws y Cerddor. BBC Cymru Fyw (3 Awst 2022).
- ↑ Lowri Mair Jones yn ennill Tlws y Cerddor yr Eisteddfod. BBC Cymru Fyw (12 Awst 2023).
- ↑ "Nathan James Dearden yn ennill Tlws y Cyfansoddwr". BBC Cymru Fyw. 2024-08-10. Cyrchwyd 2024-08-10.
- ↑ "Sarah Lianne Lewis yn ennill Medal y Cyfansoddwr yn Eisteddfod Wrecsam". BBC Cymru Fyw. 2025-08-09. Cyrchwyd 2025-08-09.