Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod ar yr Awyr

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod ar yr Awyr

-

Enillydd y Goron atal y wobr
Enillydd y Gadair T. Rowland Hughes
Y Fedal Ryddiaith T. Hughes Jones

Oherwydd yr Ail Ryfel Byd, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1940 ar y radio, dan yr enw Eisteddfod ar yr Awyr neu'n answyddogol yr Eisteddfod Radio.

Gwnaed hyn yn bennaf, gan mai ym Mhen-y-bont ar Ogwr y bwriadwyd cynnal yr Eisteddfod. Yn anffodus, yno hefyd roedd ffatri gwneud bomiau mwya'r byd, ar y pryd, gyda 37,000 o bobl yn cael eu cyflogi yno. Ofnwyd fod y dref yn darged i fomiau'r Almaen.[1] Ystyriwyd cynnal yr Eisteddfod yn Aberpennar, ond barn y Llywodraeth oedd y gallai'r dref honno hefyd fod yn darged i awyrenau'r Almaen. Aberpennar oedd enw'r dref a nodwyd ar glawr y Cyfansoddiadau.[2]

Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Pererinion "Cynor" T. Rowland Hughes
Y Goron - - Neb yn deilwng
Y Fedal Ryddiaith Sgweier Hafila "Nemo" T. Hughes Jones, Y Drenewydd*
Y Ddrama Hir Diffodd yr Haul "O'r Gloren" George Davies, Treorci

*Enillwyd y gystadleuaeth "Stori Fer Hir (tua 10,000)" gan T. Hughes Jones am ei "nofel" Sgweier Hafila. Y Wobr yn ôl y Cyfansoddiadau 1940 oedd "£5" a'r Beirniad oedd Kate Roberts,[2] a defnyddiodd y genre newydd hwn - y stori fer hir - yn ddiweddarach yn ei gyrfa lenyddol (e.e. Te yn y Grug). Nododd Alan Llwyd bod y gwaith yma wedi ennill y Fedal Ryddiaith gafodd ei ddyfarnu y flwyddyn ganlynol. [angen cadarnhad o hyn].

Darlledwyd yr Eisteddfod o stiwdio Bangor - a hynny drwy wledydd Prydain, a bu sawl côr, yn ogystal ag unigolion a phartion yn cystadlu. Rhwystrodd y Rhyfel weithredu'r Rheol Uniaith a ddaeth i rym ym 1937. Oherwydd hynny, siaradodd David Lloyd George yn Saesneg. Yn ei araith dywedodd y frawddeg gofiadwy: "This is the day of the agony of small nations."

Penderfyniad y Llywodraeth

[golygu | golygu cod]

Llywodraeth y DU a wnaeth y penderfyniad i ganslo'r Eisteddfod draddodiadol. Ystyriwyd cynnal yr Eisteddfod yn Aberpennar, ond barn y Llywodraeth oedd y gallai'r dref honno hefyd fod yn darged i awyrenau'r Almaen. Cynhaliwyd pwyllgor brys gyda'r BBC yn bresennol a gwnaeth yr Archdderwydd Cynan gyhoeddiad ar y radio:

"Yn y cyfrwng hwn y daeth swyddogion y BBC ymlaen gyda chynnig rhagorol, a awgrymwyd i gychwyn gan Mr T. Rowland Hughes, ac a dderbyniwyd yn llawen ac yn ddiolchgar gan ein Pwyllgor fel gwasanaeth cenedlaethol gwirioneddol. Y cynnig mewn gair oedd hyn: bod cyd-bwyllgor bychan o gynrychiolwyr y Cyngor a'r BBC i gydweithredu ar gynllun i geisio achub hynny a ellid o raglen Eisteddfod un naw pedwar dim drwy gyfrwng y radio."[3]

Cystadleuaeth "Chwarae Drama"

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd y gystadleuaeth perfformio drama, gyda Thomas Owen Jones (Gwynfor) yn beirniadu.

Cwmnïau Resolfen a Chastell-nedd a gafodd eu gwahodd i'r gystadleuaeth derfynol.[2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
  2. 2.0 2.1 2.2 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 1940.
  3. Gwefan y BBC; adalwyd 10 Awst 2016.