Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | un o gyfres reolaidd o wyliau ![]() |
---|---|
Dyddiad | 1917 ![]() |
Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru ![]() |
Lleoliad | Parc Penbedw ![]() |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Rhanbarth | Penbedw ![]() |
![]() |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1917 yn nhref Penbedw, Cilgwri (yn Swydd Gaer ar y pryd).
Gelwir yr Eisteddfod hon yn aml yn "Eisteddfod y Gadair Ddu" am fod enillydd y gadair Ellis Humphrey Evans wedi ei ladd rai wythnosau ynghynt ar faes y gad yn Fflandrys ac o ganlyniad taenwyd gorchudd du dros y gadair wag. Enw barddol Ellis Evans oedd Hedd Wyn.
Dywedodd Dyfed, Archdderwydd yr Eisteddfod honno ar y dydd:
Y delyn a ddrylliwyd ar ganol y wledd;
Mae'r ŵyl yn ei dagrau a'r bardd yn ei fedd.
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Yr Arwr | Fleur-de-lis | Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) |
Y Goron | Pwyll Pendefig Dyfed | - | William Evans (Wil Ifan) |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol