Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi a'r Cylch 1976
Gwedd
| Enghraifft o: | un o gyfres reolaidd o wyliau |
|---|---|
| Dyddiad | 1976 |
| Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
| Lleoliad | Aberteifi |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi a'r Cylch 1976 yn Aberteifi, Sir Ceredigion.
| Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
|---|---|---|---|
| Y Gadair | Gwanwyn | Alan Llwyd | |
| Y Goron | Troeon Bywyd | Alan Llwyd[1] | |
| Y Fedal Ryddiaeth | Nid Mudan mo'r Môr | "Sara" | Marged Pritchard |
| Tlws y Ddrama | - | - | Neb yn cystadlu |
Cafwyd peth cecru yno gan i Dic Jones ddod yn fuddugol ar awdl Gwanwyn yn ôl y beirniaid, ond yr oedd wedi torri rheolau'r eisteddfod gan ei fod yn aelod o'r pwyllgor llên. Dyfarnwyd y wobr felly i Alan Llwyd a enillodd y goron hefyd. Cyhoeddwyd y ddwy awdl yn y Cyfansoddiadau - yr unig dro i hynny ddigwydd.
Sefydlwyd Cymdeithas Bob Owen yn ystod yr eisteddfod, i goffa Bob Owen, Croesor, a hyrwyddo gwybodaeth am lyfrau Cymraeg a Chymreig.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1942 – achlysur arall pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Aberystwyth
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Pwy 'di Pwy: Alan Llwyd". BBC. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2025.