Dic Jones

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dic Jones
Yr Un Hwyl a'r Un Wylo - Cerddi Gwlad Dic Jones (llyfr).jpg
Ganwyd Richard Lewis Jones
30 Mawrth 1934(1934-03-30)
Tre'r-ddol, Sir Aberteifi
Bu farw 18 Awst 2009 (75 oed)
Blaenannerch, Ceredigion
Cenedligrwydd Baner Cymru Cymreig
Galwedigaeth Bardd

Bardd Cymraeg nodedig a ffermwr o Geredigion oedd Richard Lewis Jones (30 Mawrth 1934[1]18 Awst 2009[2]). Roedd nid yn unig yn fardd dwys, athronyddol ("Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth") ond roedd ganddo hefyd hiwmor arbennig ac iach, ac roedd ei englynion digri ymhlith goreuon ein llenyddiaeth. Oherwydd y ddwy ochr hyn, gallwn ddweud fod y Prifardd Dic Jones yn fardd crwn, cyflawn a'i draed yn soled yn y pridd. Roedd hefyd yn agos at ei filltir sgwâr ond yn fardd cenedlaethol hefyd. Cyfrannodd golofn i'r cylchgrawn Golwg am dros ddeunaw mlynedd, gyda cherdd wythnosol am faterion y dydd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Dic Jones yn Nhre'r-ddôl yng ngogledd Ceredigion, a threuliodd ran helaeth o'i oes yng ngodre Ceredigion, yn ffermio'r Hendre, Blaenannerch, 5 milltir i'r gogledd o Aberteifi.[2] Dysgodd ei grefft fel bardd gwlad gan Alun Cilie.[1]

Daeth Dic Jones yn adnabyddus y tro cyntaf pan enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd bum gwaith yn olynol yn ystod yr 1950au. Yn wahanol i nifer sy'n ennill cadair Eisteddfod yr Urdd, ni ddiflannodd Jones o'r golwg; yn hytrach cyhoeddodd ei gyfrol cyntaf, "Agor Grwn" ym 1960.[1]

Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1966 yn Aberafan gyda'i awdl Cynhaeaf.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976, ym mlwyddyn wythcanmlwyddiant yr Eisteddfod, dyfarnodd y beirniaid mai awdl Dic Jones, a oedd wedi ei hysgrifennu dan ffugenw fel sy'n arferol, ar y testun "Gwanwyn" oedd yr orau. Ond gan fod Jones yn aelod o'r Panel Llenyddiaeth, ac felly yn gwybod beth fyddai'r pynciau ymlaen llaw, cafodd ei ddiarddel ar y funud olaf ac nis cadeiriwyd. Cadeiriwyd yr ail orau yn y gystadleuaeth, sef y Prifardd Alan Llwyd a oedd yn anfodlon. Cyhoeddwyd awdlau'r ddau fardd yn y Cyfansoddiau.

Cyhoeddodd hanes ei fywyd hyd 1973 yn ei gyfrol Os Hoffech Wybod ym 1989.[1]

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007, cyhoeddwyd y byddai Dic Jones (Dic yr Hendre) yn olynu Selwyn Iolen fel Archdderwydd Cymru y flwyddyn ddilynol.

Bu farw ei ferch Esyllt, plentyn Syndrom Down, yn ddim ond tri mis oed.[1] Bu farw Dic Jones ar 18 Awst 2009 ym Mlaenannerch, Ceredigion. Goroeswyd ef gan ei dri mab, dwy ferch a'i wraig Siân.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerddi
Hunangofiant
  • Os Hoffech Wybod (1989)

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]