Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cylch yr Orsedd, Aberteifi

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976 yn Aberteifi, Ceredigion.

Cafwyd peth cecru yno gan i Dic Jones ddod yn fuddugol ar awdl 'Gwanwyn' yn ôl y beirniaid, ond yr oedd wedi torri rheolau'r eisteddfod gan ei fod yn aelod o'r pwyllgor llên. Dyfarnwyd y wobr felly i Alan Llwyd a enillodd y goron, hefyd. Cyhoeddwyd y ddwy awdl yn y Cyfansoddiadau - yr unig dro i hynny ddigwydd.

Sefydlwyd Cymdeithas Bob Owen yn ystod yr eisteddfod, i goffa Bob Owen, Croesor, a hyrwyddo gwybodaeth am lyfrau Cymraeg a Chymreig.