Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tremadog 1872
Gwedd
| Enghraifft o: | un o gyfres reolaidd o wyliau |
|---|---|
| Dyddiad | 1872 |
| Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
| Lleoliad | Tremadog |
| Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Dynodwyr | |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1872 yn Nhremadog, Sir Gaernarfon, ar 28-30 Awst 1872 ar ddydd Mercher a dydd Iau. Nid oedd hon yn Eisteddfod Genedlaethol swyddogol ac fe'i ddisgrifwyd fel Eisteddfod Gadeiriol Eryri neu Eisteddfod Fawreddog Porthmadog.[1]
Cynigiwyd Y Gadair am gerdd gynghanedd ar y testun "Dedwyddwch". Y beirniaid oedd Cynddelw a Nicander, a cyhoeddwyd fod 'Tubal cain' yn deilwng o'r gadair. Datgelwyd mai'r bardd buddugol oedd Hugh Pugh (Clynog).[2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Advertising - Y Goleuad". John Davies. 1872-08-24. Cyrchwyd 2016-08-17.
- ↑ "EISTEDDFOD TREMADOG - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1872-09-13. Cyrchwyd 2016-08-17.