Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bae Colwyn 1947

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bae Colwyn 1947
Enghraifft o:un o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1947 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadBae Colwyn Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1947 ym Bae Colwyn, Sir Ddinbych (Sir Conwy heddiw).

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Maelgwn Gwynedd "Euddog" John Tudor Jones (John Eilian)
Y Goron Glyn y Groes "Bened" Griffith John Roberts
Y Fedal Ryddiaith - - Neb yn deilwng[1]
Tlws y Ddrama Plas Madog (dim ffugenw) Edward Rees

Y Goron

[golygu | golygu cod]

Y beirniaid oedd Wil Ifan, Gwilym R. Jones a Thomas Parry. Roedd yn gystadleuaeth wan, gyda Wil Ifan a Gwilym R. yn anfoddog ond yn y diwedd cytunwyd coroni Bened sef y Parch. G. J. Roberts, rheithior Nantglyn, Sir Ddinbych. Y farn gyffredinol oedd bod y bardd yn defnyddio geirfa hen ac anghyfarwydd, ond sylwer fod Thomas Parry yn y feiriadaeth gyhoeddedig yn cyfiawnhau defnydd y bardd o'r eirfa hen ac anghyfarwydd.[2]

Cystadlaethau Eraill

[golygu | golygu cod]

Enillodd Dewi Emrys gystadleuaeth yr englyn gyda'i gerdd adnabyddus Y Gorwel.[3]

  • Cân: Ymwybod - Parch David Jones, Blaenplwyf, Aberystwyth
  • Cywydd: Dyffryn Taf yn Nyfed - David Griffith, (Dewi Aeron)
  • Cadwyn o englynion: Cefn Brith - Parch S. B. Jones, Peniel, Caerfyrddin
  • Hir a Thoddaid: Richard Hughes - David Griffith, (Dewi Aeron)
  • Soned: Malurion - Parch G. R. Tilsey, Aberdâr ("Siôn Corn") a Dewi Emrys ("Crug yr Eryr")
  • Telyneg: Yr Hafod Lom - A. Gwynn Jones, Tanyfron, Dinbych
  • Baled: Cae'r Melwr - R. R. Thomas, Rhostyllen
  • Dychangerdd: Y Cymro Undydd gan "Anglo Welsh" [dim enw]
  • Stori Fer: Y Llwynog Anfarwol - Ifor Bowen Griffith
  • Ysgrif: Gwrychoedd - Islwyn Ffowc Elis
  • Cyfieithiad: Rabbi Ben Ezra - Parch. G. Ceri Jones, Clydach-ar-Dawe

Yn y gystadleuaeth Actio Drama Hir daeth 10 o gwmnïau i'r rhagbrawf. Daeth 4 i'r "safon deilwng":[4]

  • Cwmni Llangefni (Abertawe)
  • Cwmni Glandŵr (Abertawe)
  • Cwmni Beniel (Caerfyrddin)
  • Cwmni Thremarl (Cyffordd Llandudno)

Y ddau gwmni a ddaeth i'r rownd derfynol oedd :

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Stevens, Meic (1999). Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Gwasg Prifysgol Cymru.
  2. Derec Llwyd Morgan, Y Brenhinbren (Gomer, 2013)
  3. Llwyd, Alan (2006) Y Gaer Fechan Olaf: Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1937-1950, Cyhoeddiadau Barddas. t.220
  4. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bae Colwyn. 1947.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.