Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri a'r Fro 1968
| Archdderwydd | Gwyndaf | |
|---|---|---|
| Cadeirydd | Yr Athro Stephen J. Williams | |
| Llywydd | Cynan | |
| Enillydd y Goron | Y Parch. L. Haydn Lewis | |
| Enillydd y Gadair | R. Bryn Williams | |
| Y Fedal Ryddiaith | Eigra Lewis Roberts | |
| Gwefan | www.eisteddfod.org | |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri a'r Fro 1968 yn Y Barri, Bro Morgannwg.
| Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
|---|---|---|---|
| Y Gadair | Awdl Foliant i'r Morwr | "Loma" | R. Bryn Williams |
| Y Goron | Meini | "Geraint" | Y Parch L. Haydn Lewis |
| Y Fedal Ryddiaeth | Y Drych Creulon | "Saron" | Eigra Lewis Roberts |
| Tlws y Ddrama | - | - | Neb yn deilwg
Rhoddwyd £75 i Ken Etheridge am ei "addewid"[1] |
Ffrae'r urddo
[golygu | golygu cod]Gwrthododd yr Eisteddfod gael Gwynfor Evans yn Llywydd y Dydd yn yr eisteddfod hon er ei fod wedi ei fagu yn y Barri ac yn perthyn i deulu enwog yn y dref, teulu ag oedd wedi gwneud cymaint dros Gymreictod y dref. Yn wir rhieni Gwynfor roddodd y Goron i'r Eisteddfod y flwyddyn honno. Ar ben hyn i roi halen ar y briw penderfynodd awdurdodau'r Eisteddfod urddo George Thomas i'r orsedd. Roedd George wedi bod yn gïaidd i Gwynfor yn y senedd, ond cymaint oedd ofn yr awdurdodau y byddai yna helynt bu rhaid i'r Archdderwydd ofyn i Gwynfor a fyddai yn fodlon cyd-gerdded gyda George ar y maes rhwng rhes o blismyn. Cytunodd Gwynfor.
Oriel
[golygu | golygu cod]- Eigra Lewis Roberts, Enillydd y Fedal Ryddiaith
- Haydn Lewis, Bardd y Goron
- R. Bryn Williams, Bardd y Gadair
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri 1920 – achlysur arall pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn y Barri
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Y Barri a'r Fro. 1968.