Neidio i'r cynnwys

Eigra Lewis Roberts

Oddi ar Wicipedia
Eigra Lewis Roberts
Ganwyd7 Awst 1939 Edit this on Wikidata
Blaenau Ffestiniog Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mawrth 2026 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, dramodydd, cyfarwydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Llenor, dramodydd a storiwraig o Gymru oedd Eigra Lewis Roberts (7 Awst 19395 Mawrth 2026).[1][2]

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd ym Mlaenau Ffestiniog, Meirionnydd a mynychodd Ysgol Sir Ffestiniog a Choleg Prifysgol Bangor. Bu'n dysgu am gyfnod byr, yng Nghaergybi, Llanrwst a Dolwyddelan.[3]

Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, Brynhyfryd, pan oedd ond yn ugain oed a chyhoeddwyd ei llyfr cyntaf yn y Saesneg, Return Ticket, yn 2006. Mae hi'n awdur nodedig sydd yn cael clod fel un o awduron pwysicaf yn y Gymraeg yn y 60au a'r 70au[4]. Erbyn hyn mae wedi cyhoeddi tua 30 o lyfrau, yn nofelau, straeon byrion, llyfrau i blant, cofiannau a dramâu. Derbyniodd un o ysgoloriaethau’r Academi Gymreig ar gyfer awduron yn 2006.[5]

Yn yr 1980au, creodd y gyfres deledu boblogaidd, Minafon.[3] Addasodd sawl nofel ar gyfer y S4C yn ogystal fel Y Wisg Sidan (1994) ac Y Graith (1999).

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Roedd yn byw yn Nolwyddelan.[6]. Roedd hi'n briod â Llew ac roedd ganddi dri o blant - Sioned, Urien a Gwydion.[3]

Bu farw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar 5 Mawrth 2026 yn 86 oed.[2]

Gwobrau ac anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Llyfrau

[golygu | golygu cod]

Nofelau

[golygu | golygu cod]

Straeon Byrion ac Ysgrifau

[golygu | golygu cod]

Gweithiau Llwyfan

[golygu | golygu cod]

Cyfieithiadau

[golygu | golygu cod]

Gweithiau Eraill

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Y llenor a'r prifardd Eigra Lewis Roberts wedi marw yn 86 oed". BBC Cymru Fyw. 2026-03-06. Cyrchwyd 2026-03-06.
  2. 1 2 "Cyhoeddiad marwolaeth Eigra Lewis ROBERTS". funeral-notices.co.uk. 2026-03-13. Cyrchwyd 2026-03-17.
  3. 1 2 3  Eigra Lewis Roberts. BBC Lleol. Adalwyd ar 20 Mehefin 2016.
  4. "Welsh Writing 1960-1985, Ned Thomas, transcript-review.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-05. Cyrchwyd 2007-12-06.
  5. "DATGANIAD I'R WASG 2006, Academi". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-14. Cyrchwyd 2007-12-06.
  6. "Bywgraffiad ar wefan Gwasg Gomer". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-20. Cyrchwyd 2007-12-06.
  7. Eigra'n cipio'r Goron BBC Cymru 7 Awst 2006
  8. "Y prifardd Eigra Lewis Roberts wedi marw yn 86 oed". newyddion.s4c.cymru. 2026-03-06. Cyrchwyd 2026-03-06.
  9. "Graddedigion er Anrhydedd, Prifysgol Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-20. Cyrchwyd 2007-12-06.