Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri 1968
Jump to navigation
Jump to search
Archdderwydd | Gwyndaf | |
---|---|---|
Cadeirydd | Yr Athro Stephen J. Williams | |
Llywydd | Cynan | |
Enillydd y Goron | Y Parch. L. Haydn Lewis | |
Enillydd y Gadair | R. Bryn Williams | |
Y Fedal Ryddiaith | Eigra Lewis Roberts | |
Gwefan | www.eisteddfod.org |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1968 yn Y Barri, Bro Morgannwg.
Ffrae'r urddo[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwrthododd yr Eisteddfod gael Gwynfor Evans yn Llywydd y Dydd yn yr eisteddfod hon er ei fod wedi ei fagu yn y Barri ac yn perthyn i deulu enwog yn y dref, teulu ag oedd wedi gwneud cymaint dros Gymreictod y dref. Yn wir rhieni Gwynfor roddodd y Goron i'r Eisteddfod y flwyddyn honno. Ar ben hyn i roi halen ar y briw penderfynnodd awdurdodau'r Eisteddfod urddo George Thomas i'r orsedd. Roedd George wedi bod yn gïaidd i Gwynfor yn y senedd, ond cymaint oedd ofn yr awdurdodau y byddai yna helynt bu rhaid i'r Archdderwydd ofyn i Gwynfor a fyddai yn fodlon cyd-gerdded gyda George ar y maes rhwng rhes o blismyn. Cytunodd Gwynfor.