E. Gwyndaf Evans
E. Gwyndaf Evans | |
---|---|
Ganwyd |
7 Mawrth 1913 ![]() |
Bu farw |
10 Mawrth 1986 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
bardd ![]() |
Gweinidog a Bardd Cymraeg oedd Evan Gwyndaf Evans neu "Gwyndaf" (7 Mawrth 1913 - 10 Mawrth 1986)[1]. Bu'n weinidog yng Nghapel Tabernacl, Llanelli.
Bu'n athro ysgrythyr yn Ysgol Brynrefail, Llanrug o 1957 hyd 1978[1].
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1935 gyda'r gerdd Magdalen[2], y tro cyntaf i gerdd gynganeddol vers libre ennill y gystadleuaeth. Bu'n Archdderwydd rhwng 1966 a 1969.
Yn frodor o bentref Llanfachreth, Gwynedd, daeth i sylw Cymru fel bardd pan enillodd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 1934. Yn 1935 enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol am ei awdl 'Magdalen'. Bu'n Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol o 1966 hyd 1968.[3]
Arbrofai ar ysgrifennu vers libre mewn cynghanedd ac roedd yn ganwr penillion adnabyddus hefyd. Dim ond un gyfrol o gerddi a gyhoeddodd, sef Magdalen a cherddi eraill, ond cyfrannai'n gyson i gylchgronau Cymraeg ar hyd ei oes.[3]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Magdalen a cherddi eraill (Gwasg Gomer, 1962)
- Cerddi Gwyndaf: y casgliad cyflawn (Dinbych: Gwasg Gee, 1987 ISBN 0707401275)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 Y Parch E Gwyndaf Evans BA Eco'r Wyddfa Ebrill 1986 Tud:3
- ↑ Gwefan yr Eisteddfod Enillwyr y Gadair adalwyd 21 Tachwedd 2017
- ↑ 3.0 3.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
|