Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Eisteddfod Genedlaethol)
Jump to navigation Jump to search
Mathrafal2003.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolEisteddfod, annual event Edit this on Wikidata
Yn cynnwysCadair yr Eisteddfod Genedlaethol, Coron yr Eisteddfod Genedlaethol, Y Fedal Ryddiaith, Gwobr Goffa Daniel Owen, Tlws y Cerddor, Gwobr Goffa David Ellis, Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn, Medal Aur am Gelfyddyd Gain, Medal Aur am Grefft a Dylunio, Medal Aur mewn Pensaernïaeth, Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts, Medal Syr T.H. Parry-Williams, Dysgwr y Flwyddyn, Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol, Albwm Cymraeg y Flwyddyn Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://eisteddfod.cymru Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gŵyl ddiwylliannol bwysicaf Cymru yw Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chystadlu mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth a drama yn elfen bwysig. Ymhlith y cystadlaethau pwysicaf mae cystadleuaeth am y Gadair am awdl, y Goron am bryddest a'r Fedal Ryddiaith am waith rhyddiaith. Ceir hefyd y Rhuban Glas i'r canwr unigol gorau a chyflwynir Medal Syr T.H. Parry-Williams er 1975 i gydnabod gwasanaeth gwirfoddol nodedig ymhlith pobl ifanc. Er 1952, trefnir a llywodraethir yr Eisteddfod gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn gyffredinol, bu'r niferoedd sy'n ymweld â hi'n gostwng rhwng 1997 a 2017.

Yr Eisteddfod ddoe a heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Er bod traddodiad yr eisteddfod yn ganrifoedd oed, ni chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf tan 1861, yn Aberdâr. Daeth y gyfres flynyddol honno i ben oherwydd diffyg cyllid yn 1868. Yn 1880 sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a dan nawdd y gymdeithas hon cynhaliwyd Eisteddfod Merthyr Tudful yn 1881 a chynhaliwyd eisteddfod yn ddifwlch wedyn ar wahân i 1914 a 1940.[1]

Roedd Iolo Morganwg wedi sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn 1792. Fel y tyfodd yr Eisteddfod Genedlaethol daeth yr orsedd i'w chysylltu fwy-fwy gyda hi, gan gychwyn gydag Eisteddfod Caerfyrddin 1819, nes datblygu yn rhan o seremonïau'r eisteddfod fwy neu lai fel y mae heddiw. Yr orsedd sydd yn gyfrifol am seremonïau cadeirio a choroni'r beirdd yn ogystal â chyflwyno'r Fedal Ryddiaith. Ailwampiodd yr Archdderwydd Geraint Bowen tipyn ar y seremonïau, er enghraifft diddymu Seremoni'r Cymry Ar Wasgar, a dod â'r brodyr Celtaidd i mewn i rai o'r prif seremonïau. Mae aelodau'r orsedd yn rhannu'n dri grŵp, gyda lliw gwahanol i wisg bob un.

Caiff yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos lawn gyntaf mis Awst, yn y de a'r gogledd bob yn ail. Ond ceir Seremoni'r Cyhoeddi tua 13 mis cyn yr Eisteddfod. pryd y bydd Gorsedd y Beirdd a'i chefnogwyr yn gorymdeithio drwy'r dref i Gylch yr Orsedd. Ar ôl y seremoni cyflwynir rhestr o destunau'r Eisteddfod i'r Archdderwydd.

Mae maes yr Eisteddfod yn mesur oddeutu 15 i 18 erw (6 i 7 ha). Ar wahân i'r pafiliwn mawr, bydd hefyd y Babell Len, y Babell Ddawns, Pabell y Cymdeithasau, y Lle Celf; a bydd nifer o stondinau gan gymdeithasau gwirfoddol, megis yr Urdd, Merched Wawr; bydd y pleidiau gwleidyddol ar y maes hefyd a busnesau.

Yn y gorffennol, roedd Saesneg yn rhan o'r gweithgareddau, a chlywid hi hyd yn oed ar lwyfan yr Eisteddfod ei hun. Nododd y cyfansoddiad newydd ym 1952 mai iaith swyddogol yr eisteddfod oedd y Gymraeg yn unig, ac roedd Cynan yn flaenllaw yn y gwaith o gadw'r eisteddfod yn uniaith Gymraeg.

Ymhlith eisteddfodau eraill Cymru mae: Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Eisteddfod Pantyfedwen, Eisteddfod Powys ac Eisteddfod Môn. Ceir hefyd nifer o eisteddfodau llai ledled Cymru, megis Eisteddfod Pwll-glas.

Prif wobrau'r eisteddfod[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhestr o Eisteddfodau Cenedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

19eg ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

1869-1879 - Eisteddfodau answyddogol yn y gogledd
Ail-gychwyn Eisteddfod Genedlaethol

20fed ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

21ain ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Melville Richards, "Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg", yn Twf yr Eisteddfod: Tair Darlith, gol. Idris Foster (Aberystwyth: Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1968)
  2. "Gwefan yr Eisteddfod". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-09. Cyrchwyd 2013-04-27.
  3. Newyddion BBC am Eisteddfod 2015

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: