J. Elwyn Hughes

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Golygydd ac ieithydd yw J. Elwyn Hughes, a fu am 30 mlynedd yn olygydd ‘Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’ yr Eisteddfod Genedlaethol (1985-2015), 23 cyfrol. Mae’n arbenigwr ar hanes y nofelydd Caradog Prichard.

Yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl, 1985 y cyhoeddwyd y Cyfansoddiadau cyntaf dan ei olygyddiaeth, sy'n cael ei ei chyhoeddi'n flynyddol ar brynhawn Gwener olaf yr Eisteddfod. Ymddeolodd o'r swydd er mwyn canolbwyntio ar sgwennu am Ddyffryn Ogwen, ei fro enedigol a diddordebau eraill. Penodwyd W. Gwyn Lewis yn ei le.

Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 2000.jpg

Mae'n gynddisgybl Ysgol Dyffryn Ogwen a rhwng 1987 – 1996 bu'n Gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Iaith.[1] Astudiodd Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac yna gradd Meistr mewn Addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor cyn cael ei benodi'n Brifathro Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda.

Mae'n byw yn Methel, Gwynedd. Yn 1993 anrhyddeddwyd ef i'r Wisg Wen yn Eisteddfod Llanelwedd am ei gyfraniad i'r Gymraeg.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. www.linkedin.com
  2. Gwefan Gomer; adalwyd 6 Gorffennaf 2015