Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Mae'r erthygl hon yn dibynnu'n fawr neu'n gyfan gwbl ar un ffynhonnell yn unig. Helpwch wella'r erthygl trwy ychwanegu cyfeiriadau neu ddyfyniadau priodol o ffynonellau eraill. (Ionawr 2010) |
Bwrdd yr Iaith Gymraeg | |
Arwyddair | "Gwneud hi'n haws i bawb ddefnyddio Cymraeg ymhob agwedd ar fywyd."[1] |
---|---|
Pencadlys | Caerdydd, Caerfyrddin, a Chaernarfon |
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Cymraeg |
Prif Weithredwr | Meirion P. Jones |
Sefydlwyd | Rhagfyr 1993 |
Diddymwyd | Mawrth 2012 |
Math | Asiantaeth weithredol |
Lleoliad | Cymru |
Cyllideb | Dim cyllideb, ond yn cael grant blynyddol gan y llywodraeth o £12m |
Gwefan | http://www.byig-wlb.org.uk/Pages/Hafan.aspx |
Corff statudol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU fel rhan o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 oedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Derbyniodd y Bwrdd grant blynyddol gan y llywodraeth, £13.4 miliwn yn 2006–7, a oedd i fod i'w ddefnyddio er mwyn "hybu a hwyluso" defnydd o'r iaith Gymraeg. Roedd y Bwrdd yn gyfrifol am weinyddu Deddf yr Iaith Gymraeg, ac am sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cadw at ei rheolau. Gellir ystyried Cyngor yr Iaith Gymraeg, a sefydlwyd yn 1973, fel cynsail at sefydlu'r Bwrdd.
Cadeirydd cyntaf y Bwrdd oedd Dafydd Elis-Thomas. Y cadeirydd o Awst 2004 hyd 2012 oedd Meri Huws.
Agweddau at y Bwrdd[golygu | golygu cod y dudalen]
Beirniadwyd y Bwrdd gan rai, yn honni nad oedd grym ganddo dros y cyrff cyhoeddus ac yn ei feirniadu am fethu hyrwyddo'r iaith o fewn y sector preifat.
Agwedd ymgyrchwyr dros y Gymraeg oedd gweld y Bwrdd yn offeryn diddannedd a biwrocrataidd yn yr ymgyrch i arbed yr iaith Gymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ei feirniadu'n llym, gan ymgyrchu am ddeddf iaith newydd.
Diddymu[golygu | golygu cod y dudalen]
Diddymwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 31 Mawrth 2012 dan delerau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Trosglwyddwyd ei ddyletswyddau i Lywodraeth Cymru ac i Gomisiynydd y Gymraeg, swydd newydd a grëwyd dan y mesur.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg[dolen marw] wedi'i harchifo gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.