Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Fideo gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu'r 'Mesur Arfaethedig' gan yn Ebrill 2020.

Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Saesneg: Welsh Language (Wales) Measure 2011) sy'n newid y fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Fe'i basiwyd gan y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2010[1] a daeth i rym ar 9 Chwefror 2011 pan dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol gan Frenhines y Du.[2]

Drwy'r mesur hwn y creewyd swydd ac adran Comisiynydd y Gymraeg, gan ddod a Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ben. Penodir gan y Prif Weinidog a bydd ganddo ef neu hi'r pŵer i gosbi cyrff cyhoeddus a rhai cwmnïau preifat, megis cwmnïau nwy, trydan, a ffôn, am dorri eu hymrwymiad i'r iaith.[3] Cyhoeddwyd yn Hydref 2011 mai Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, fydd y Comisiynydd Iaith newydd,[4] a bydd hi'n gadael ei swydd fel Cadeirydd y Bwrdd yn gynnar yn Chwefror 2012 er mwyn gallu paratoi ar gyfer y swydd newydd a ddechreua yn Ebrill 2012 yn swyddogol.[5]

Cyflwynwyd y mesur gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, ar 4 Mawrth 2010.[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl i'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ffurfio llywodraeth glymblaid Cymru'n Un yng Ngorffennaf 2007 roedd addewid yn eu cytundeb i greu "deddf newydd i gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg ac estyn hawliau i ddefnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg". Yn Ionawr 2009 dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Paul Murphy y gallai'r broses ar gyfer cais gan Lywodraeth y Cynulliad am yr hawl i ddeddfu ynghylch yr iaith Gymraeg fod yn "stormus", yn debyg yn sgil pryderon y gallai adrannau llywodraeth y Deyrnas Unedig gael eu dirwyo am beidio â defnyddio digon o Gymraeg ac amheuon nifer o Aelodau Seneddol Llafur am estyn cydraddoldeb ieithyddol y tu hwnt i'r sector cyhoeddus.[6]

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009[golygu | golygu cod y dudalen]

Gosododd Alun Ffred Jones Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) ar 2 Chwefror 2009 i "ehangu cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud cyfreithiau newydd i Gymru drwy Fesurau ynglŷn â'r iaith Gymraeg".[7] Sefydlwyd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 ar 4 Chwefror i ystyried y GCD.

Proses[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 4 Mawrth 2010 datganodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, bod darpariaethau'r mesur arfaethedig o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.[8]

Ymateb[golygu | golygu cod y dudalen]

"R'yn ni am i’r iaith gael ei thrin fel cydraddoldebau eraill lle mae unigolion yn cael hawliau sylfaenol. Ac r'yn ni eisiau i'r Mesur ffitio i mewn gyda chyfundrefn hawliau ryngwladol. Mae pobol yn delio gyda materion fel hyn ar draws y byd."

Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg[9]

Croesawyd cyhoeddiad y mesur arfaethedig fel "diwrnod hanesyddol" gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, er disgrifiodd y mudiad hepgor sôn am hawliau o'r mesur "fel adeiladu tŷ ar dywod".[10] Ar 10 Mawrth anfonodd Cymdeithas lythyr at Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn gwneud cwyn swyddogol am y mesur arfaethedig, gan gyhuddo bod Llywodraeth y Cynulliad wedi camarwain y cyhoedd trwy honni bydd y mesur yn sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg.[11]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Testun y mesur