Sesiwn Fawr Dolgellau

Oddi ar Wicipedia

Gŵyl gerddorol flynyddol Geltaidd a rhyngwladol a gynhaliwyd yn strydoedd nhref Dolgellau, Gwynedd oedd Sesiwn Fawr Dolgellau. Cafodd ei sefydlu yn 1992 gan Ywain Myfyr, Huw Dylan Owen, Esyllt Jones, Elfed ap Gomer ac Alun Owen a bu'n rhedeg tan 2008. Y nôd oedd trefnu gŵyl ar strydoedd Dolgellau a hynny yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd. Datblygodd Sesiwn Fawr Dolgellau i fod yn un o brif wyliau cerddorol Ewrop, a llwyddodd i ddenu perfformwyr o sawl gwlad led-led y Byd.

Rhwng 1992 a 2000, cynhaliwyd y Sesiwn fel gŵyl gerddoriaeth werin gyda'r prif lwyfannau wedi'i leoli yn Y Stryd Fawr, yng nghanol tref Dolgellau. Ni chodwyd tâl mynediad i'r wŷl yn y dyddiau cynnar, ond wrth i'r wŷl dyfu bu angen cael safle ehangach, ac yn 2001 cynhaliwyd y Sesiwn ar y Marian, ar lan yr Afon Wnion, ar gyrion Dolgellau, am y tro cyntaf. Esblygodd yr wŷl i fod yn un o wyliau roc mwyaf Cymru, gan gynnal llwyfan i rai o'r enwau mwyaf yn y byd cerddoriaeth rhyngwladol. Yn 2000 enilliodd yr wyl wobr digwyddiad gymraeg y flwyddyn yn sgil cystadleuaeth difrifol gan digwyddial golf a gynhaliwyd yn y de. Rhoddodd y wobr yn unfrydol gan y beirniaid i Sesiwn Fawr am fod yr wyl yn cadarnhau fod rhwngth twristiaeth a dathliad o ddiwylliant Cymraeg gall tref a gymuned weld twf economaidd.

Mae'r bandiau a chantorion a berfformiodd yn Sesiwn Fawr Dolgellau yn cynnwys: Super Furry Animals, Cerys Matthews, Anweledig, Meic Stevens, Burning Spear, Bryn Fôn, Iwcs a Doyle, Bob Delyn a'r Ebillion, Gai Toms, The Alarm, The Levellers, Capercaillie, Oysterband, Susheela Raman, Sian James, Dick Gaughan, The Saw Doctors, Sibrydion, Mozaik, Sharon Shannon, Karine Polwart, Brendan Power, Shooglenifty, Gwerinos, Frizbee, Ar Log, Meinir Gwilym, a’r Moniars.

Cynhaliwyd y Sesiwn Fawr olaf yn 2008 ar ôl i'r wŷl fynd i drafferthion ariannol a dyled yn dilyn gwerthiant siomedig o docynnau a achoswyd gan gyfuniad o dywydd gwael a chystadleuaeth o wyliau cerddorol eraill.

Yn 2010, fe gynhaliwyd gŵyl werin fechan gymunedol yn nrhef Dolgellau, a hwnnw dan enw 'Sesiwn Fach'. Gwelodd 2011 ailddyfodiad y Sesiwn Fawr, ond ar raddfa llawer llai na'r Sesiynau a welwyd hyd at 2008. Cynhaliwyd ddigwyddiadau'r wyl mewn pabell ar faes parcio Clwb Rygbi'r Hen Ramadegwyr ac yng Nghanolfan Ty Siamas. Daeth elfennau o'r wyl yn ôl i'r stryd phan cynhaliwyd dwmpath ar y Sgwâr ac amryw o sesiynau jamio yn nhafarndai'r dref. Yn ystod y penwythnos cafwyd berfformiadau gan Calan, Mynediad am Ddim, Steve Eaves ac Yr Ods.[1]

Yn 2012, cafwyd flwyddyn y RiSesiwn, enw tafod yn foch yn deillio o sefyllfa economaidd y wlad a'r her wynebir gwyliau gymunedol gan Gemau Llundain 2012. Y tro hwn, trefnwyd y Sesiwn gyfan yng nghanol tref Dolgellau, sef y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers 2001, gyda gigiau yn Nhy Siamas ac ym maes parcio y tu cefn i Westy'r Llong ar waelod y Sgwâr. Cfwyd berfformiadau gan Bob Delyn a'r Ebillion, Cowbois Rhos Botwnnog, Ryland Teifi a Mendocino a llawer mwy. Disgwylir i wyl tebyg cael ei gynnal yn 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]