Tafwyl
| Enghraifft o: | gŵyl gerddoriaeth |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 2006 |
| Lleoliad | Caerdydd |
| Gwefan | https://tafwyl.org/ |
| Dynodwyr | |
Gŵyl flynyddol Menter Caerdydd i ddathlu celfyddydau a diwylliant Cymraeg yw Tafwyl, sydd yn digwydd yn flynyddol yng Nghaerdydd, Cymru.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd yr ŵyl yn 2006 yn dilyn cyfarfod agored gan Menter Caerdydd. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf yng ngardd gefn hen dafarn y Mochyn Du ger Canolfan Chwaraeon Genedlaethol Cymru. Daeth oddeutu 80 o bobl i'r cyfarfod a chost y Tafwyl gyntaf oedd £2,500.[1] Yn 2012 symudodd yr ŵyl o’r Mochyn Du i Gastell Caerdydd. Mae cynulleidfa Tafwyl wedi tyfu yn aruthrol dros y blynyddoedd o ychydig dros mil o bobl yn y Mochyn Du yn ei ddyddiau cynnar, i 38,000 o bobl yng Nghaeau Llandaf yn 2017. Yn 2018 cyllideb yr ŵyl oedd £150,000.[1] Wedi cyfnod ansicr yn ystod pandemig COVID-19 symudodd yr ŵyl i Barc Bute yn 2023 ac fe'i darlledwyd yn fyw ar S4C.[2]
Mae’n ddigwyddiad 9 diwrnod i gyd; cynhelir Ffrinj Tafwyl am wythnos gyda digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal o amgylch Caerdydd, gan orffen gyda’r prif ddigwyddiad dros y penwythnos olaf.[3] Mae’r prif ddigwyddiad yn gymysgedd fywiog o gerddoriaeth, llenyddiaeth, drama, comedi, celf, chwaraeon, bwyd a diod yng. Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n agored i bawb – yn siaradwr Cymraeg neu beidio.
Manylion y gŵyliau
[golygu | golygu cod]2025
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd yr ŵyl ar 14 a 15 Mehefin 2024 ym Mharc Bute. Darlledwyd ffrydiau byw o'r perfformiadau ar lwyfannau S4C.[4]
Amserlen[5]
| Prif Lwyfan | Tafiliwn | Yurt T | |
|---|---|---|---|
| Dydd Sadwrn |
Cyw |
Dewin |
Yn cyflwyno... Silferlein, Penbleth |
| Dydd Sul |
Disgo Ddechrau'r Dydd |
Crys |
Yn cyflwyno... Dwyn y Lleuad, Fitzalan, Bro Edern, Mac |

2024
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd yr ŵyl ar 13 a 14 Gorffennaf 2024 ym Mharc Bute. Roedd yna hefyd ddigwyddiad agoriadol ar y nos Wener yn rhoi llwyfan i rai o oreuon byd adloniant a chomedi Cymraeg Cymru.[6] Darlledwyd ffrydiau byw o'r perfformiadau ar lwyfannau S4C.[7]
Amserlen[8]
| Prif Lwyfan | Tafiliwn | Yurt T | |
|---|---|---|---|
| Dydd Sadwrn |
Cyw |
Achlysurol |
Elis Derby |
| Dydd Sul |
Ble? |
Catsgam |
Yn cyflwyno... Paralel, Lleuad Llwyd, Cyfnos |
2023
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd yr ŵyl ar 15 a 16 Gorffennaf 2023 ym Mharc Bute. Am y tro cyntaf darlledwyd nifer o'r perfformiadau yn fyw ar lwyfannau digidol S4C a darlledwyd perfformiad Bwnch yn fyw ar deledu nos Sadwrn.[2]
Amserlen[9]
| Prif Lwyfan | Y 'Sgubor | Yurt T | |
|---|---|---|---|
| Dydd Sadwrn |
Cyw |
Madelyn Ann |
Yn cyflwyno... |
| Dydd Sul |
Angharad Jenkins & Yann Le |
Beth Celyn |
Yn cyflwyno... |
2022
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd yr ŵyl ar 18 a 19 Mehefin 2022 yng Nghastell Caerdydd. Am y tro cyntaf roedd BBC Radio Cymru yn darlledu perfformiadau o'r brif lwyfan ar y dydd Sadwrn.[10]
| Prif Lwyfan | Y 'Sgubor | Yurt T | |
|---|---|---|---|
| Dydd Sadwrn |
Hana Lili |
Cerys Hafan x Léa |
Gweithdy Côr Aloud |
| Dydd Sul | Y Gerddorfa Ukelele Morgan Elwy |
Mari Mathias Sam Humphreys x Krismenn |
Llawenydd - Yoga gyda Laura Karadog Mynd ir Brifysgol? |
2021
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd yr ŵyl ar 15 Mai 2021 yng Nghastell Caerdydd, ar y dydd Sadwrn yn unig. Yn dilyn pandemig COVID-19, roedd yn un o naw digwyddiad prawf a oedd yn rhan o gynllun peilot Llywodraeth Cymru i gynnal digwyddiadau dros yr haf mewn modd ddiogel. Roedd lle i gynulleidfa fyw o 500 o bobl mewn grwpiau o rhwng pedwar a chwech o bobl, ac roedd rhaid dangos tystiolaeth o brawf Covid-19 negyddol.[13] Ffrydiwyd y perfformiadau yn fyw ar wasanaeth AM.[14]
| Prif Lwyfan |
|---|
|
Thallo |
2020
[golygu | golygu cod]Roedd yr ŵyl i fod i symud o Gastell Caerdydd i Barc Biwt y flwyddyn hon. Ym mis Mawrth 2020 penderfynwyd gohirio yr ŵyl oherwydd pandemig COVID-19.[15]
2019
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd yr ŵyl rhwng 21 a 23 Mehefin 2019 yng Nghastell Caerdydd, a croesawyd 37,000 o ymwelwyr.[16][17]
Amserlen
| Prif Lwyfan | Y 'Sgubor | Yurt T | |
|---|---|---|---|
| Dydd Gwener | Serol Serol Adwaith Lleuwen a'r Band |
Ani Glass
Bitw |
|
| Dydd Sadwrn |
Y Gerddorfa Ukelele |
VRI |
Band Fitzalan |
| Dydd Sul | Wigwam
Patrobas |
Ukan Elis Derby Castsgam |
Hula Hoop Band Bro Edern Band Glantaf |
2018
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd yr ŵyl ar 30 Mehefin a 1 Gorffennaf 2018 yng Nghastell Caerdydd. Daeth yn agos i 40,000 o ymwelwyr. Oherwydd y niferoedd uchel ar y dydd Sadwrn roedd yn rhaid gweithredu trefn "un allan ac un i mewn" wrth fynedfa'r castell.[18]
Amserlen
| Prif Lwyfan | Y 'Sgubor | Yurt T | |
|---|---|---|---|
| Dydd Sadwrn | Adwaith Omaloma Chroma Meic Stevens |
Danielle Lewis |
Wigwam |
| Dydd Sul | Cowbois Rhos Botwnnog Y Cledrau Cadno |
Glain Rhys
Gai Toms |
Eady Crawford
Beth Celyn |
2017
[golygu | golygu cod]Yn 2017 cynhaliwyd yr ŵyl yng nghaeau Llandaf a gwelwyd 38,000 o ymwelwyr.[19] Bryn Fôn a'r Band oedd i fod i orffen yr ŵyl ar y nos Sul ar y Brif Lwyfan on ni allent fynychu felly Candelas oedd y prif fand.[20] Roedd "Reu! 25" yn ddathliad o gerddoriaeth electronig Cymru.[21]
Amserlen
| Prif Lwyfan | Llwyfan Acwstig | |
|---|---|---|
| Dydd Sadwrn | Gwilym Bowen Rhys Cpt Smith |
Big Fish Little Fish Danielle Lewis |
| Dydd Sul | Cyw Y Gerddorfa Ukulele Omaloma |
Cwpwrdd Nansi Iwan Huws |
2016
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd yr ŵyl ar 2 a 3 Gorffennaf 2016 yng Nghastell Caerdydd. Daeth 36,500 o ymwelwyr eleni y flwyddyn hon.[22]
Amserlen
| Prif Lwyfan | Llwyfan Acwstig | |
|---|---|---|
| Dydd Sadwrn | Cadno Trwbz |
Holl Anifeiiad Y Goedwig Gai Toms |
| Dydd Sul | Cyw Y Gerddorfa Ukulele |
Sera Carreg Lafar |
2015
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd yr ŵyl ar 4 a 5 Gorffennaf 2015 yng Nghastell Caerdydd, a dyma'r flwyddyn gyntaf i brif ddigwyddiad yr ŵyl gael ei gynnal dros ddeuddydd. Cynhaliwyd Ffrinj Tafwyl yn yr wythnos yn arwain at y penwythnos, a oedd yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau gyda'r nos.[23] Daeth 35,500 o ymwelwyr i'r ŵyl y flwyddyn hon.[3]
| Prif Lwyfan | Llwyfan Acwstig |
|---|---|
| Cyw Kookamunga |
Plu: Holl Anifeiliaid Y Goedwig Aled Rheon |
2014
[golygu | golygu cod]Castell Caerdydd oedd cartref Tafwyl 2014 a daeth 18,717 o ymwelwyr.[24]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Beti a'i Phobl Siân Lewis". BBC Radio Cymru. 29 Ebrill 2018.
- ↑ 2.0 2.1 "Tafwyl - yn fyw ac yn fwy". S4C. 2023-06-11. Cyrchwyd 2025-06-15.
- ↑ 3.0 3.1 "Tafwyl wedi sicrhau cyllid i'w chynnal eto eleni". Golwg360. 2016-01-06. Cyrchwyd 2025-06-15.
- ↑ "Huw Stephens ymysg cyflwynwyr Tafwyl ar S4C gyda cherddoriaeth a chyfweliadau byw". S4C. 2025-06-13. Cyrchwyd 2025-06-15.
- ↑ "AMSERLENNI TAFWYL". Tafwyl ar Instagram. Cyrchwyd 2025-06-10.
- ↑ "Cyhoeddi dyddiad a lleoliad Tafwyl 2024". Golwg360. 2024-02-12. Cyrchwyd 2025-06-15.
- ↑ "Yn fyw ac yn fwy nag erioed - Tafwyl 2024 ar S4C". S4C. 2024-07-13. Cyrchwyd 2025-06-15.
- ↑ "AMSERLEN TAFWYL 2024". Tafwyl ar Instagram. Cyrchwyd 2024-07-10.
- ↑ "AMSERLEN Y BRIF LWYFAN, Y 'SGUBOR, YURT T A'R LLWYFAN YSGOLION". Instagram Tafwyl. 2023-06-29. Cyrchwyd 2025-06-15.
- ↑ "Tafwyl Festival Makes Cardiff Castle Return For 2022". entssouthwales (yn Saesneg). 2022-06-12. Cyrchwyd 2025-06-15.
- ↑ "Amserlen Dydd Sadwrn 18.06.22" (PDF). Tafwyl. Cyrchwyd 2025-06-16.
- ↑ "Amserlen Dydd Sul 19.06.22" (PDF). Tafwyl. Cyrchwyd 2025-06-16.
- ↑ "Tafwyl 2021: 'Ni fyddai'r haf yn haf heb Tafwyl'". BBC Cymru Fyw. 2021-05-15. Cyrchwyd 2025-06-15.
- ↑ "TAFWYL 15.05.21" (PDF). Tafwyl. Cyrchwyd 2025-06-15.
- ↑ "Canslo Tafwyl 2020 ym mis Mehefin achos coronafeirws". BBC Cymru Fyw. 2020-03-18. Cyrchwyd 2025-06-14.
- ↑ "Amserlen – Tafwyl". tafwyl.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-16. Cyrchwyd 2025-06-14.
- ↑ "Cyhoeddi cartref newydd i ŵyl Tafwyl 2020". BBC Cymru Fyw. 2019-10-11. Cyrchwyd 2025-06-14.
- ↑ "Tafwyl 2018 'yn llawn dop' medd trefnwyr". BBC Cymru Fyw. 2018-06-30. Cyrchwyd 2025-06-15.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-18. Cyrchwyd 2018-04-23.
- ↑ https://twitter.com/Tafwyl/status/881517224867094532
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-14. Cyrchwyd 2018-04-23.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-12. Cyrchwyd 2018-04-23.
- ↑ "Pob hwyl i Tafwyl!". BBC Cymru Fyw. 2015-07-03. Cyrchwyd 2025-06-15.
- ↑ "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-09-05. Cyrchwyd 2018-04-23.