Omaloma

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Omaloma

Omaloma yw prosiect cerddorol George Amor, sy’n wreiddiol o Ddyffryn Conwy, a gynt yn aelod o’r band Sen Segur. Rhyddhawyd ei sengl gyntaf, “Ha Ha Haf”, ym mis Ebrill 2016. Cyhoeddwyd ei albwm gyntaf, Swish, yn 2020, wedi iddi gael ei chynhyrchu yn Stiwdio Glan Llyn, Melin y Coed, gyda Llŷr Pari (Y Niwl).

Bu'r band ar daith o amgylch gwledydd Prydain gyda Gwenno Saunders ar ddechrau 2018.

Yn chwarae yn fyw mae George Amor (prif leisydd ac allweddellau), Llŷr Pari (dryms), Gruff ab Arwel (gitâr ac allweddellau), Daf Owain (gitâr fas), Alex Morrison (gitâr ac allweddellau).